HUGHES, OWEN (‘yr Arian Mawr’; bu farw 1708), twrne ym Miwmares.

Enw: Owen Hughes
Ffugenw: yr Arian Mawr
Dyddiad marw: 1708
Priod: Marged Hughes (née Wynn)
Rhiant: Thomas Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: twrne
Place: Miwmares
Maes gweithgaredd: Cyfraith
Awdur: Thomas Richards

Mab i Thomas Hughes o Borthllongdy drwy ei briodas ag un o ferched Maesoglan; ei wraig oedd Marged, merch y sgweier Ifan Wynn o Benllech yn Llŷn (priodi yn 1661). Am flynyddoedd cymdogaeth dda oedd rhyngddo a Bwcleaid Baron Hill; yr oedd yn dal les ar ‘ferry’ Abermenai, drwy eu bendith hwy; ac ef yn 1683 a ddarparodd bapurau priodas rhwng un o ferched Bwcle a John Griffith ieuanc o Gefn Amwlch. Yn yr un flwyddyn Owen Hughes oedd siryf Môn, ac yn destun cywydd tra moliannus gan Edward Morus; er y gormodiaith amlwg sydd ynddo, y mae'n agosach i'r gwir nag ystorïau anghyfrifol Angharad Llwyd. Ni ddaliodd yr heddwch â Bwcle yn hir; daeth y twrne yn faer Niwbwrch, llwyddodd i gasglu clymblaid o'r bwrdeiswyr o'i ochr drwy ailfywiogi hawliau'r hen dref honno, a chyn bod pobl Biwmares wedi deffro o'u cwsg, wele ef yn aelod seneddol dros fwrdeisdrefi Môn, a mwynhau'r fraint honno am dair blynedd (1698-1700). Crafangodd beth wmbredd o dir i'w ddwylo a chasglu peth dirfawr o arian, gymaint felly fel y bu i'w ewyllys roddi bywyd newydd mewn hen stadau, a'u gosod ar eu traed; aeth Bodfan ger Llandwrog i Lloyd Bodvel, gŵr Ann ei nith; aeth Madryn yn Llŷn i orŵyres ei chwaer Jane; a bu teulu Llysdulas ym Môn yn dra dyledus i'r ffaith fod mam y sgweier William Lewis yn nith arall i Owen Hughes.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/