NANNAU, ' NANNEY ' (TEULU), Sir Feirionnydd.

Saif plas Nannau ym mhlwyf Llanfachreth, Meirionnydd, 700 troedfedd uwchlaw'r môr, 'uchaf tir,' 'trum araul' (Guto'r Glyn), a thrigai ynddo am ganrifoedd un o deuluoedd mwyaf pwerus y sir. Blodeuai Ynyr Hên, 'cyff Nannau,' o gwmpas 1200-50; haerai ei fab ef, Ynyr Fychan, mai ef a helpiodd ddal y gwrthryfelwr Madog ap Llywelyn yn 1295 a'i draddodi i'r concwerwyr; ond prin, yn ôl rhediad y blynyddoedd, y gellir llyncu'r syniad mai ei fab ef, y Meurig Fychan y ceir ei ddelw yn eglwys Dolgellau, a llew mawr yn gerfiedig ar ei darian, oedd un o warcheidwaid castell y Bere yn union wedi marw'r ' Llyw Ola ', ac yn fodlon, gyda rhai tebyg iddo, i rannu'r £80 a gynigid iddynt am ei drosglwyddo i'r awdurdodau Seisnig. Nid oes sicrwydd o gwbl fod Anian II, esgob Llanelwy o 1268-93, yn un o'r teulu, er bod un o lawysgrifau Peniarth yn cyfeirio ato fel 'y braud du o nanney'; yr oedd iddo frawd hefyd o'r enw Adda, ' Adam de Nannew,' yn un o ysgutorion ei ewyllys olaf. Nid oes dim sicrwydd ychwaith ynghylch geirwiredd stori brad Hywel Sele yn 1402 - ef yn ŵyr i Meurig Fychan - yn erbyn Owain Glyndŵr; drwgdybid diweddarwch y stori gymaint gan Syr John Lloyd fel na ddywedir gair am Hywel drwy gydol ei lyfr safonol ar hanes y tywysog. Mwy dymunol yw cofio bod Llywelyn Goch ap Meurig Hen (c. 1370-1400) yn gefnder i Meurig Fychan, sef y bardd a ganodd farwnad mor odidog i Leucu Llwyd. Codi bardd a noddi beirdd; Gruffydd Llwyd yn canu clodydd dau fab i Meurig Fychan (diwedd y 14eg ganrif); Guto'r Glyn yn seinio moliant Meurig Fychan II (cyfnod Harri VI), canu ei farwnad, a chywydd i Dafydd ei fab am rodd o farch; cyrraedd y penllanw gyda theyrnged glodforus Wiliam Llŷn i Gruffydd Nannau (cyfnod Harri'r Wythfed).

O ddyddiau Hywel Sele yn oes Owain Glyndŵr hyd ddiwedd oes Elisabeth llwyddodd y Nanneiod i wreiddio'n ddwfn yng nghwmwd Talybont trwy ddod yn berchen tyddynnod a thiroedd yn nhrefgorddau Brithdir a Dyffrydan, Cefnyrywen a Dolgleder, Garthgynfor a Garthmaelan. Tyfodd o'r cyff amryw ganghennau: oddi wrth frawd i Hywel Sele y tarddai teulu Caerynwch; aeth cangen Cefndeuddwr allan yng nghanol y 16eg ganrif, a changen Maes Pandy ar ddiwedd yr un ganrif; dyfnhaodd y gyfathrach â Dolaugwyn drwy gyfres gymhleth o briodasau. Pennaeth y teulu yn y blynyddoedd 1580-1620 oedd HUW NANNAU HEN, personoliaeth gyda'r rymusaf, gŵr yr oedd y beirdd am y cyntaf yn canu ei glod, a chryn 11 ohonynt yn canu marwnadau iddo pan fu farw yn 1623. Nid gŵr heb ei brofedigaethau: yr oedd ar delerau drwg iawn â theuluoedd y Llwyn a Llwydiaid Rhiwaedog, ac Oweniaid yr Hengwrt; ac nid oedd ei geraint yng Nghefndeuddwr yn ddieuog o swcro brad yn ei erbyn (dywedid mai ei bechod mawr oedd gwthio ei fab Gruffudd yn aelod seneddol dros Feirion yn 1593 yn erbyn John Lewis Owen o'r Llwyn). Canolbwyntiodd ei elynion ar y cyhuddiad fod Huw Nannau wedi torri i lawr filoedd o goed ym Mhenrhos rhwng Mawddach a'r Afon Wen, a gwneud ffortiwn fawr ohonynt; daeth llys yr Exchequer i'r dyfarniad ei fod yn euog, £1,500 o ddirwy; aeth Huw Nannau i'r carchar yn hytrach na thalu; bu petisiwn wedi petisiwn at yr awdurdodau, gollyngwyd ef yn rhydd, ond methwyd yn lân â thynnu'r ddirwy i lawr yn is nag £800 (gweler cofnodion yr achos, 1605-1610).

Cymharol dawel a fu hanes y teulu hyd ddyddiau'r cyrnol HUGH NANNEY, aelod seneddol dros sir Feirionnydd (1695-1701) a'i wraig fusnesgar Catrin, un o ferched Cors-y-gedol, a fu farw yn 1733. Ef oedd y Nanney olaf i ddal y stad; priododd ei aeres Jonet â Robert Vaughan o'r Hengwrt yn 1719; gorŵyr oedd ef i'r hynafiaethydd enwog; yr oedd yr hynafiaethydd ei hun yn briod ag ŵyres i Huw Nannau Hen. Bu eu mab hwy, HUGH VAUGHAN, ymron â gwneud pen ar ei holl feddiannau drwy ei fuchedd ofer a'i ddiofalwch, ond oherwydd plwc ei gyfreithiwr John Lloyd a phybyrwch deallus y foneddiges Elizabeth Baker, a lywiai'r llys yn Nannau, daeth pethau'n fwy gobeithiol erbyn marw Hugh Vaughan yn 1783, gan adael ei frawd ROBERT HOWELL VAUGHAN (1723 - 1792), a grewyd yn farwnig yn 1791, i ddwyn y frwydr ymlaen hyd 1788, pryd y cafwyd dedfryd ffafriol dros ben gan feistriaid y Chancery. Gwnaed Robert Howell Vaughan yn farwnig yn 1791, ond mwy pwysig oedd ei briodas yn 1765 ag Ann Williams, etifeddes stad Ystumcolwyn ger Meifod, hithau yn ei thro yn ŵyres i'r Meriel Williams a briododd sgwïer Meillionydd yn Llŷn; effaith hyn i gyd oedd cyfuno ym meddiant Syr Robert Howell Vaughan a'i fab Syr ROBERT WILLIAMS VAUGHAN (1768 - 1843), Nannau, Hengwrt, Ystumcolwyn, a Meillionydd. Pa ryfedd i'r mab godi plas newydd yn Nannau, dod yn aelod seneddol dros Feirion yn 1792, cael ei ethol 13 gwaith yn olynol, a dal yn aelod hyd 1836 ? Talwyd diolch drwy gyflwyno anerchiad goreuredig iddo, gyda 122 o enwau wrtho, yng Ngorffennaf 1836; yn 1841 casglwyd arian i sefydlu'r ' Vaughan Scholarship ' fel teyrnged i'w wasanaeth fel gŵr cyhoeddus; a phan fu farw yn 1843 canodd ' Meurig Idris ' awdl farwnad iddo (12 tudalen). Daeth ei frawd EDWARD VAUGHAN (bu farw 1807) i diroedd Rüg drwy ewyllys yr etifeddes (1780), a bu'r stad honno ym meddiant Fychaniaid y Nannau hyd farw'r 3ydd Syr ROBERT VAUGHAN (1803 - 1859), pan ddaeth ail fab arglwydd Newborough i mewn iddi. Yn ôl ewyllys Syr Robert - bu farw'n ddiblant - aeth Hengwrt i chwiorydd ei wraig (un o Lwydiaid Rhagad) a'r Nannau i un o feibion yr arglwydd Mostyn 1af gyda'r amod sicr nad oedd y trefniannau hyn i ddal onid am un bywyd, a bod y ddwy stad ymhen y rhawg i ddod i ddwylo JOHN VAUGHAN (ganwyd 1829), o gangen Dolmelynllyn o deulu Hengwrt. Digwyddodd hyn yn 1874; a buan yr oedd John Vaughan yn gorfod arfer ei ddoethineb gydag awdurdodau'r ffordd haearn newydd i'r Bala, gyda hen broblem y pysgota yn afon Mawddach, a chwestiwn y doll a ddylai anturiaethwyr dalu am gloddio aur ar ei diroedd. Mewn gwleidyddiaeth, Ceidwadwr rhonc ydoedd, a bu'n wrthwynebydd aflwyddiannus i T. E. Ellis yn lecsiwn gyffredinol 1886. Bu farw 29 Mehefin 1900 (Nannau MS. 835) - nid yn 1898 fel y dywed Griffith.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.