MADOG ap LLYWELYN, gwrthryfelwr 1294

Enw: Madog ap Llywelyn
Rhiant: Llywelyn Fychan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwrthryfelwr 1294
Maes gweithgaredd: Gwrthryfelwyr; Milwrol
Awdur: Thomas Jones Pierce

Dangoswyd yn bendant mai mab ydoedd i Lywelyn ap Maredudd, arglwydd-ddeiliad olaf Meirionnydd, y gŵr y cymerwyd ei dreftadaeth oddi arno am iddo wrthwynebu Llywelyn II yn 1256 (gweler Llywelyn Fawr a Llywelyn Fychan, arglwyddi Meirionnydd). Trigai Llywelyn yn Lloegr - yn un o bensiynwyr y brenin; wedi ei farw yn 1263 parhaodd ei fab, Madog, mewn ffafr yn llys y brenin. Yn ystod 1277 gwnaethpwyd iddo ddwy 'rodd' fawr o arian o 'wardrob' y brenin, ac yr oedd ei hawl i Feirionnydd yn cael ei chydnabod, serch nad ar goedd, gan y Goron; yn 1278 daeth â chyngaws yn erbyn Llywelyn II gerbron ustusiaid y brenin gyda'r amcan o gael ailfeddiant o'r cantref. Ar ôl 1282 ymddengys iddo ddychwelyd i Gymru a chael rhoddi iddo diroedd ym Môn. Oblegid ei berthynas â hen deulu brenhinol Aberffraw (yr oedd yn gâr yn y bumed radd i Lywelyn II) teimlodd ei fod yn cael ei ysbrydoli i gymryd arno'i hun ran arweinydd gwladgarol. Yn 1294, pan oedd pobl Cymru yn cael gwasgu arnynt gan gyfuniad o achwyniadau a phan godasant yn erbyn eu gorthrymwyr, fe'i gwnaeth Madog ei hun yn arweinydd i'r rhai a oedd yn codi yng Ngogledd Cymru, gan hawlio ei fod yn ' Dywysog Cymru.' Dechreuodd pethau yn dda o blaid y gwrthryfelwyr, ac yn ystod gaeaf 1294-5 bu raid i'r brenin Edward a'i wŷr eu hamddiffyn eu hunain yng nghyffiniau Conwy. Ym mis Mawrth, fodd bynnag, aeth Madog â llu i Sir Drefaldwyn; yno daeth iarll Warwick ar ei warthaf yn sydyn a'i orchfygu ef a'i wŷr a pheri colledion trwm iddynt ym Maes Meidog (neu Moydog), yng Nghaereinion. Llwyddodd Madog i ffoi i fynyddoedd Eryri lle y bu'n ffoadur hyd nes y bu raid iddo ymostwng, yn ddiamod, i John de Havering yn niwedd mis Gorffennaf neu ddechrau mis Awst 1295. Cymerwyd ef i Lundain, ac er na chafodd ei ddienyddio ni wyddys beth a ddaeth ohono.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.