LLYWELYN FAWR a LLYWELYN FYCHAN (fl. yn gynnar yn y 13eg ganrif).

Enw: Llywelyn Fawr
Plentyn: Maredudd ap Llywelyn
Rhiant: Maredudd ap Cynan ab Owain Gwynedd
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

Meibion Maredudd ap Cynan. Ar waethaf y rhwyg rhwng eu tad â Llywelyn I, yr oeddent yn teimlo'n gyfeillgar tuag at Lywelyn o 1215 ymlaen. Efallai, yn wir, i arglwyddiaeth Meirionnydd, a gollwyd i'r teulu yn 1202, gael ei rhoddi'n ôl iddynt cyn gynhared â 1221. Er iddynt gael eu cadarnhau yn y cantref gan Harri III yn 1241, ymladdodd y ddau ar ochr Dafydd II yn 1245. Wedi'r flwyddyn honno nid oes gyfeiriad o gwbl at y naill na'r llall ohonynt.

Yn 1255 cofnodir marw Maredudd, arglwydd Meirionnydd, mab y Llywelyn hynaf, mae'n weddol sicr. Pan fwriwyd allan, yn 1256, fab yr olaf, yntau hefyd yn Llywelyn, am fradwriaeth yn erbyn Llywelyn II, aeth Meirionnydd dros byth o feddiant disgynyddion Cynan ab Owain Gwynedd. Madog, mab y Llywelyn olaf, oedd arweinydd gwrthryfel 1294.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.