O 1173 hyd 1194 yr oedd yn arglwydd Eifionydd a rhan o Ardudwy - ffaith a nodwyd gan Gerallt Gymro pan aeth trwy'r ardal yn 1188. Derbyniodd Feirionnydd hefyd gan ei frawd Gruffudd (yn 1194, mae'n debyg) pan rannodd hwnnw ffrwyth buddugoliaeth yng Ngwynedd gyda'i gefnder Llywelyn I; yr oedd gyrfa gynnar Llywelyn yn ddyledus i raddau helaeth i'r cymorth a roes meibion Cynan iddo. Pan fu Gruffudd farw yn 1200 daeth Maredudd i feddiant o Lŷn, eithr fe'i cymerwyd oddi arno yn 1201 am frad tybiedig yn erbyn Llywelyn. Yn 1202 cymerwyd ei diroedd eraill oddi arno eithr adferwyd Meirionnydd, o leiaf, i'w deulu - gweler Llywelyn Fawr a Llywelyn Fychan. Yr oedd yn gydsylfaenydd (yn 1198 neu 1199) abaty Sistersaidd Cymer. Canwyd ei farwnad gan Brydydd y Moch.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.