LLYWARCH ap LLYWELYN ('Prydydd y Moch '; fl. 1173-1220);

Enw: Llywarch ap Llywelyn
Ffugenw: Prydydd Y Moch
Plentyn: Dafydd Benfras
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: David Myrddin Lloyd

yr amlycaf o feirdd llys Gwynedd wedi marw Owain Gwynedd hyd at anterth Llywelyn Fawr. Y mae'n cyfarch Dafydd fab Owain Gwynedd fel ' Udd Ffraw '; felly canai iddo rhwng 1173 a 1175. Cynnen rhwng brodyr o dywysogion oedd prif berygl yr oes yng Nghymru, a hawdd deall y cyfeiriad at Gain ac Abel mewn awdl i Rodri. Dyrchafu awdurdod Aberffraw oedd y llwybr ymwared a welai Llywarch. Yr oedd Dafydd fel ' Udd Ffraw ' yn ' brif deyrn canhwynawl,' ond yr oedd rhaid iddo, medd y bardd, fynnu ei flaenoriaeth trwy rym - nid trwy gariad. Ar ôl Dafydd, bu Rhodri, ac yna Gruffudd ei nai yn rheoli Aberffraw, ond er gwanned oeddynt, daliai Llywarch i bleidio ' hawl greddfawl ' y llys hwnnw dros y Brython 'o Fôn i Fynyw.' Gellir deall felly ei orfoledd yng nghynnydd Llywelyn Fawr. Ceir naw o gerddi a ganodd iddo fel ei brifardd ar wahanol adegau ar ei yrfa. Adeg bygwth Powys gan Lywelyn yw achlysur y ' Canu Mawr,' ac apelia'r bardd at wŷr y dalaith honno ar dir cenedlaethol, sef mai gwell derbyn Cymro yn ben nag estron. A sonia droeon am ei arwr fel ŵyr Madog fab Maredudd yn ogystal ag Owain Gwynedd. Yn y ' Canu Bychan ' gwêl Llywarch sylweddoli ei holl freuddwydion; olrheinia yrfa Llywelyn trwy Ogledd a De hyd at fuddugoliaethau 1220, a blaenoriaeth Aberffraw bellach yw balchder Cymru, ei hundod, a'i llwyddiant. Canodd Llywarch hefyd i amryw dywysogion a oedd yn is-wasanaethgar i Lywelyn yng Ngwynedd a Phowys, a'r un modd i Rys Grug yn y De. Y mae'r cyfeiriadau at gastell Gwis, Arberth, a Hawrffordd yn awgrymu 1220 yn hytrach na 1215. Fel ffrwyth undod newydd Cymru ceir gan y bardd hwn ymorfoleddu yn enwau lleoedd Cymru gyfan na cheir ei debyg gan unrhyw fardd o'i flaen. Canodd rieingerdd i Wenllian Deg. Yn ' Awdl yr Haearn Twymyn ' y mae'n gwadu'r cyhuddiad iddo ladd ryw Fadawg. Ansicr yw ei awduriaeth o'r ' Canu i Dduw ' a briodolir iddo yn Hendregadredd MS. ond i Gynddelw yn The Myvyrian Archaiology of Wales a Llyfr Coch Hergest; y mae'r condemnio trachwant tywysogion yn gweddu'n well i Gynddelw. Anodd esbonio'r llysenw ar Lywarch, onid yw'r cyfeiriad at foch yn The Myvyrian Archaiology of Wales 204 a 26 yn rhyw eglurhad. Y mae achos i gredu iddo genfigennu wrth Wilym Ryfel am ei lwyddiant yn llys Dafydd ab Owain Gwynedd (The Myvyrian Archaiology of Wales , 201 a 58). Ei olynydd yn llys Llywelyn oedd Dafydd Benfras, a hwyrach mai ei fab oedd, ac os felly, ei unig fab (The Myvyrian Archaiology of Wales , 255 b 5).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.