Mab Owain Gwynedd a'i wraig Christina, merch Gronw ab Owain ab Edwin. Gan fod y tad a'r fam yn gefnder a chyfnither nid oedd eu priodas yn cael ei harddel gan yr Eglwys ac felly ystyrid y plant yn anghyfreithlon.
Clywir sôn am Ddafydd y tro cyntaf yn 1157 pryd y cymerth ran yn ymgyrch sydyn coed Penarlâg lle y bu Harri II agos â cholli ei fywyd. Yn 1165 yr oedd wedi ymsefydlu yn nyffryn Clwyd; dechreuodd ryfela y flwyddyn honno gyda chyrch ar Degeingl lle y cafodd ysglyfaeth mawr. Rhoes marw ei dad ym mis Tachwedd 1170 gyfle newydd; ymosododd ef a'i frawd Rhodri ar eu hanner-brawd Hywel ab Owain mewn brwydr gerllaw Pentraeth ym Môn a'i ladd. Yn 1173 ymosododd ar hannerbrawd arall, Maelgwn ab Owain, a'i yrru ar ffo o Fôn i Iwerddon. Ei flwyddyn fwyaf lwyddiannus ydoedd 1174; troes allan ei holl gydymgeiswyr, a Rhodri yn eu plith, taflodd Maelgwn i garchar - yr oedd hwnnw wedi meiddio dychwelyd o Iwerddon - ac am gyfnod byr bu'n teyrnasu ar Wynedd gyfan. I'r flwyddyn hon, fe ymddengys, y perthyn cân foliant Gwilym Ryfel iddo - geilw'r bardd ef yn frenin Cemais. Cymerth Dafydd ran y brenin yn helyntion enbyd 1173 ac felly bu mor hyf â gofyn am gael Emma, merch ordderch i Sieffre o Anjou (ac felly'n hanner-chwaer i'r brenin), yn wraig. Caniatâwyd ei gais - ond nid gyda llawer o frwdfrydedd - a phriodwyd y ddau yn haf 1174, treuliau'r briodasferch yn cael eu talu o goffrau arian y brenin.
Dyna uchafbwynt gyrfa Dafydd. Yn 1175 fe ddaeth newid. Ymosodwyd arno gan Rodri, a oedd wedi dianc o'r carchar y taflasai Dafydd ef iddo, ac fe'i herlidiwyd dros afon Conwy i ran ddwyreiniol Gwynedd lle y gallai ddibynnu ar gael cymorth gan y Normaniaid. Nid oedd y newid wrth fodd Gwalchmai, y bardd o Fôn; cwyna ef golli ei noddwr, sef Dafydd; ni chymerai Rhodri, pennaeth newydd Môn, ddim diddordeb yng nghanu'r bardd. Daeth pethau ychydig yn well yn 1177; y flwyddyn honno, pan fu cynhadledd rhyngddynt yn Rhydychen, plesiwyd gwr Emma pan roes y brenin iddo arglwyddiaethau Ellesmere a Hales. Ymddengys iddo ymsefydlu yn awr yn y Berfeddwlad, gyda chastell hardd ganddo (Rhuddlan) a edmygid gan Gerallt Gymro a fu'n aros noson yno, pan oedd gyda'r archesgob Baldwin, yng ngwanwyn 1188.
Yn 1194 cafodd ail ddyrnod gan ffawd. Cafodd ei boeni am beth amser gan ei nai ieuanc egnïol, Llywelyn ab Iorwerth, a ymrwymodd â'i gefndyr, meibion Cynan ab Owain Gwynedd, ac a orchfygodd Ddafydd yn llwyr, gyda'u cymorth, mewn brwydr yn Aberconwy. Ni adawyd iddo ond tri chastell, a chollodd y rhain hyd yn oed yn 1197 pan daflwyd ef i garchar gan Lywelyn. Trwy i'r archesgob Hubert gyfryngu ar ei ran fe'i rhyddhawyd yn 1198, ac ymneilltuodd i'w faenorau yn Lloegr a threulio yno weddill ei oes. Bu farw tua mis Mai 1203, wedi ennill iddo'i hun, medd Gerallt Gymro, edmygedd y ddwy genedl oblegid iddo geisio cadw'r dafol yn wastad rhwng Cymry a Saeson. Rhoes Stocket a Cricket, trefi yn arglwyddiaeth Ellesmere, i abaty Haughmond ac ychwanegodd at yr eiddo a oedd gan y mynachty hwnnw eisoes yn Nefyn - yr oedd eglwys y lle hwnnw wedi ei rhoddi i Haughmond gan ei ewythr Cadwaladr.
O'i wraig Emma cafodd Dafydd fab a merch. Dilynwyd ef yn Hales gan ei weddw a'i fab - a dyna sut y cafodd yr enw Halesowen. Aeth arglwyddiaeth Ellesmere yn ôl i feddiant brenin Lloegr, er iddi cyn bo hir gael Cymro yn arglwydd arni - Llywelyn ab Iorwerth. Yn 1212, pan nad oedd John a Llywelyn ar delerau da, ceisiwyd gwneuthur Owain yn dywysog yn nwyrain Gwynedd yn lle ei dad. Ond ni chafodd hyn dderbyniad yn y wlad. Erbyn 1214 ymddengys fod Emma ac Owain wedi marw, oblegid yn y flwyddyn honno rhoddwyd Halesowen gan y brenin i Peter des Roches a sefydlodd dy yno i ganoniaid Premonstratensiaidd. Priodwyd eu merch ' Wennour ' â Meurig, mab Roger, un o farwniaid pwerus y gororau ac ynddo waed Cymreig; defnyddid ef yn fynych fel cyfieithydd rhwng y Cymry a'r Saeson. Cafodd hi Elson, tref yn Ellesmere, yn waddol, a bu iddi ddau fab, ' Wrennoc ' (Gronw) a Gwenwynwyn, a gafodd diroedd Meurig pan fu hwnnw farw yn 1200.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.