GWALCHMAI ap MEILYR (fl. 1130-80), bardd o Fôn, un o'r cynharaf o'r Gogynfeirdd

Enw: Gwalchmai Ap Meilyr
Priod: Efa wraig Gwalchmai ap Meilyr
Plentyn: Goronwy ap Gwalchmai
Plentyn: Elidir Sais
Plentyn: Dafydd ap Gwalchmai
Plentyn: Meilir ap Gwalchmai
Plentyn: Einion ap Gwalchmai
Rhiant: Meilyr Brydydd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd o Fôn, un o'r cynharaf o'r Gogynfeirdd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: David Myrddin Lloyd

Canodd i Owain Gwynedd (bu. farw 1170) a'i frodyr, ac i Ddafydd a Rhodri ei feibion, a hefyd i Fadog ap Maredudd o Bowys (bu farw 1160). Ei weithiau eraill sydd ar gael yw ei Orhoffedd, ei ‘Freuddwyd,’ ei ganu i Efa ei wraig, ac, yn ôl Hendreg. MS. a ‘Llyfr Coch Hergest,’ y canu i Dduw a briodolir yn y Myv. Arch. i'w fab Meilyr ap Gwalchmai. Yn un o'r awdlau i Owain Gwynedd ceir tystiolaeth mai mab oedd Gwalchmai i Feilyr, pencerdd Gruffudd ap Cynan (Myv. Arch. 144B16-17 — ‘Arddwyrews fy nhad [e]i fraisg frenhindad’). Profir i Walchmai ddechrau canu cyn 1132 gan y ddau gyfeiriad ganddo at ei foliant i Gadwallawn fab Gruffudd ap Cynan a fu farw'r flwyddyn honno.

Yn un o'r awdlau i Owain Gwynedd ceir cyfeiriadau at ymgyrchfeydd y tywysog hwnnw yn 1136-8 yng Ngheredigion a Phenfro, ac mewn awdl arall ceir disgrifiad nodedig o frwydr Tal Moelfre (1157). Y mae sôn am anghydfod rhwng Gwalchmai ag Owain Gwynedd mewn awdl arall, ac nid oes ar gael farwnad o'i waith i'r tywysog hwn y canodd gymaint iddo. Mewn awdl i Ddafydd ab Owain Gwynedd cyfeirir at symud y tywysog hwnnw yn 1175 i'r dwyrain o Gonwy, ac er ei fod yn cwyno nad oedd Rhodri ddim yn ei hoffi, ceir awdl iddo a ganwyd wedi hynny.

Canwyd y Gorhoffedd ym mywyd Owain Gwynedd. Y mae cyfeiriadau sicr ynddo at ymgyrchfeydd 1136-8 yn y De, ac yn Rhuddlan (1150?). Y mae'r gerdd hon, sy'n gyfuniad o ganu natur, serch, ac ymffrost, yn un o uchelgampau barddoniaeth Gymraeg ei chanrif.

Yr oedd gan Walchmai feibion ac y mae peth o farddoniaeth dau (neu dri) ohonynt ar gael, sef EINON a MEILYR AP GWALCHMAI, ac, o bosibl, Elidir Sais. Dengys y Record of Caernarvon gyswllt Gwalchmai a'i feibion â Threwalchmai ym Môn, a bod ganddo feibion o'r enw Meilyr, Dafydd, ac Elidir. Yn ei ‘Freuddwyd’ y mae Gwalchmai 'n cwyno ei golled ar ôl Goronwy, ac fe sonnir mewn englynion marwnad teulu Owain Gwynedd (Myv. Arch. 163b) am Oronwy fab Gwalchmai.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/