Gruffudd ap Cynan yn Aberffraw. Ystyrir ef y cyntaf o'r Gogynfeirdd. Yn ei hanes ef a'i fab Gwalchmai a'i ŵyrion y ceir yr enghraifft debycaf yng Nghymru i'r hyn y gwyddom gymaint mwy amdano yn Iwerddon, sef teulu yn etifeddu'r swydd o bencerdd llys i linach arbennig o dywysogion, a chan y beirdd hyn eu treftadaeth dirol oblegid eu swydd farddol. Ceir Trefeilyr a Threwalchmai ym Môn hyd heddiw. Dangosodd Syr J. Morris-Jones fod anhawster amseryddol ar ffordd derbyn awduriaeth Meilyr Brydydd ar yr awdl-gywydd marwnad i Drahaearn fab Caradog a Meilyr fab Rhiwallon a laddwyd ym Mynydd Carn (1081). Nid oes ddim arall ar gael o'i waith ond marwnad Gruffudd ap Cynan (1137), a marwysgafn y bardd ei hun. Yn y gyntaf fe geir, fel y gwelodd Syr J. E. Lloyd, y mynegiant cyntaf sydd ar gael mewn barddoniaeth Cymraeg o'r adfywiad Cymreig a gydredai â chynnydd tywysogion Gwynedd yn y 12fed ganrif. Yn y farwysgafn dymuna Meilyr gael ei gladdu yn Enlli. Nid yw'n debyg iddo oroesi ei brif noddwr yn hir, ac yr oedd Gwalchmai, ei fab, eisoes yn ddigon hen i dderbyn rhoddion tywysogion Gwynedd cyn 1132 (gweler Hendreg. MS. 13a).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.