TRAHAEARN ap CARADOG (bu farw 1081), brenin Gwynedd

Enw: Trahaearn ap Caradog
Dyddiad marw: 1081
Plentyn: Owain ap Trahaearn
Plentyn: Griffri ap Trahaearn
Plentyn: Meurig ap Trahaearn
Plentyn: Llywarch ap Trahaearn
Rhiant: Caradog ap Gwyn ap Collwyn
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: brenin Gwynedd
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

Dywedir ei fod yn fab i un o'r enw Caradog ap Gwyn ap Collwyn ac yn gefnder i Bleddyn ap Cynfyn. Daeth yn rheolwr Arwystli yn ei hawl naturiol ei hun. Gwelir yn ei yrfa ef rhwng 1075 a 1081 un o'r esiamplau mwyaf trawiadol yn hanes Cymru o'r modd y gallai gŵr o bersonoliaeth feiddgar ac uchelgeisiol, un o arglwyddi llai Cymru, fedru cipio i'w ddwylo ei hun awdurdod brenhinol dros diriogaeth eang ar yr union adeg pan oedd amgylchiadau y llinachau pennaf yn bur isel. Pan fu Bleddyn farw yn 1075 cipiodd Trahaearn yr awenau yng Ngwynedd. Heriwyd ei awdurdod gan Gruffudd ap Cynan, cynrychiolydd hen linach Gwynedd, a gorchfygwyd ef yn Glyngin ym Meirionnydd; yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn, fodd bynnag, adenillodd ei awdurdod ym Mron-yr-erw a gorfodi Gruffudd i fynd i alltudiaeth am yr ail dro yn Iwerddon.

Yn 1078 aeth ar gyrch i Dde Cymru a lladd y brenin (Rhys ab Owen) yn Gwdig. Gan fod diddordebau a oedd yn gyffredin i'r gwahanol lywodraethau Cymreig yn cael eu bygwth, daeth Gruffudd a Rhys ap Tewdwr yn gynghreiriaid maes o law a chyda'i gilydd gorchfygasant eu gelyn yn llwyr ym mrwydr enwog Mynydd Cam, a ymladdwyd yn 1081. Lladdwyd Trahaearn yn y frwydr honno. Gadawodd bedwar mab - Meurig, Griffri, Llywarch, ac Owain. Parhaodd ei ddisgynyddion i lywodraethu Arwystli hyd nes y gwnaeth Gwenwynwyn hi yn rhan o Bowys. Priododd ei ŵyres, Gwladus, ag Owain Gwynedd; mab iddi hi oedd Iorwerth Drwyndwn, tad Llywelyn Fawr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.