ELIDIR SAIS, bardd a ganai yn niwedd y 12fed ganrif a hanner cyntaf y 13eg.

Enw: Elidir Sais
Rhiant: Gwalchmai ap Meilyr
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: David Myrddin Lloyd

Canodd englynion marwnad i Rodri ab Owain Gwynedd (bu farw 1195) ac i Ednyfed Fychan. Nid Sais mohono, oblegid dywed Gwilym Ddu (The Myvyrian Archaiology of Wales , 277B) fod Elidir yn 'ŵr o ddoethion Môn, mynwes eigion,' a rhydd ei waith gyda chynnyrch prifeirdd eraill yn 'iawn ganon,' neu'n safon i feirdd. Canu crefyddol yw'r rhan fwyaf o'i gynnyrch, ac fe'i ceir yng nghasgliad y Dr. Henry Lewis (a nodyn ar ei ddilysrwydd yn y rhagymadrodd, xi). Nid ymddengys fod Elidir yn gefnogol i bolisi ymosodol Llywelyn Fawr. Cwyna farwolaeth Rhodri yn dost, a dywed nad oes neb bellach ar ôl i 'ystwng treiswyr.' Gwyddom hefyd i Ddafydd ab Owain Gwynedd orfod cilio i Loegr oblegid cynnydd ei nai, ac y mae Elidir yn ystyried hyn fel trais ail yn unig i gipio bedd Grist gan Syladin (The Myvyrian Archaiology of Wales , 243A). Nid rhyfedd iddo orfod canu dadolwch i Lywelyn. Ni wêl ym marw'r tywysog hwnnw yn 1240 ond tystiolaeth nad yw treisio 'gweinion' ddim yn tycio (The Myvyrian Archaiology of Wales , 243B-4A). Y mae'n amlwg nad oedd ganddo fawr gydymdeimlad â thuedd ei oes yng Nghymru. Nid oedd ffiniau i'w treisio ('Ystyrych pan dreisych dros ffin'), a rhoes ei orau i'w ganu crefyddol. 'Bardd fyddaf i Dduw hyd tra fwyf ddyn.' Sonia am lyfrau llên na ddylid eu hamau, ac y mae manylder rhai o'i syniadau yn awgrymu gwybodaeth o lenyddiaeth grefyddol ei oes. Yn ei farwnad i Ednyfed Fychan fe ategir y traddodiad y sonia Syr J. E. Lloyd amdano (gweler t.684 o'r A History of Wales ) i'r gwleidydd hwnnw gael gyrfa filwrol. Gwyddom i un o feibion Rhys ap Gruffudd gael ei alw'n ' Sais ' am iddo orfod treulio blynyddoedd o'i oes yn Lloegr. Tybed i agwedd Elidir Sais tuag at Lywelyn Fawr ei orfodi yntau i gilio dros ffin ei wlad? Ceir yn Rec. Caern., 48, enwau tri mab i Walchmai, sef Meilir, Dafydd, ac Elidir. Os mai'r olaf hwn oedd ein bardd, hawdd deall Gwilym Ddu yn ei alw'n 'ŵr o ddoethion Môn.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.