mab Owain Gwynedd a Christina, a brawd iau Dafydd I. Yr oedd ei gyfran ef o diriogaeth Owain Gwynedd ym Môn ac Arfon eithr alltudiwyd ef o'r gyfran honno yn 1190 gan ei neiaint, Gruffydd a Maredudd, meibion Cynan. Yn 1193 llwyddodd i adennill Môn dros dymor trwy gymorth llu o Ynys Manaw - yr oedd cyn hynny wedi ymrwymo i briodi merch i frenin Manaw. Ni wyddys a fu iddo ddychwelyd o'i alltud a chymryd rhan yng nghwymp a darostyngiad Dafydd yn 1194; bu farw yn 1195, fodd bynnag, a chladdwyd ef (meddir) yng Nghaergybi. Yr oedd wedi priodi, beth amser cyn hynny, ferch i'r Arglwydd Rhys; bu mab, Gruffydd, o'r briodas, ond ni adawodd hwnnw etifeddion.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.