RHYS ap GRUFFYDD (1132 - 1197), arglwydd Deheubarth (' Yr Arglwydd Rhys ').

Enw: Rhys ap Gruffydd
Dyddiad geni: 1132
Dyddiad marw: 1197
Priod: Gwenllian ferch Madog ap Maredudd
Plentyn: Gwenllian ferch Rhys ap Gruffydd
Plentyn: Rhys Gryg
Plentyn: Gruffydd ap Rhys
Plentyn: Maelgwn ap Rhys
Plentyn: Hywel ap Rhys
Plentyn: Cynwrig ap Rhys
Rhiant: Gwenllian ferch Gruffudd
Rhiant: Gruffydd ap Rhys ap Tewdwr
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arglwydd Deheubarth
Maes gweithgaredd: Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

Mab iau Gruffydd ap Rhys ap Tewdwr, a Gwenllian, ferch Gruffydd ap Cynan. Pedair oed yn unig oedd pan fu ei dad farw, y daeth ei hanner brodyr Anarawd a Chadell yn arweinwyr y gwrthryfel yn Ne Cymru yn erbyn y Normaniaid. Pan oedd yn 13 oed fe'i ceir gyda'i frawd hŷn, Maredudd, yn ymladd o dan arweiniad Cadell yn 1146. Yn ystod y 10 mlynedd nesaf gwelwyd ail-ffurfio hen frenhiniaeth Deheubarth gydag ymlid teulu Clare o Geredigion a theulu Clifford o'r Cantref Bychan a Llanymddyfri, a daeth Rhys yn unig reolwr y deyrnas hon ar farwolaeth Maredudd yn 1155; yr oedd Cadell wedi'i glwyfo a cholli ei iechyd am byth, bedair blynedd yn gynt. Disgynnodd mantell hen frenhinoedd Deheubarth ar ysgwyddau Rhys ar adeg pan gawsai'r sefyllfa boliticaidd yn Lloegr ei thrawsffurfio gan esgyniad Harri II, a dyma'r ffaith bwysicaf ym mywyd Rhys am y 30 mlynedd nesaf. Ar waethaf rhai arwyddion o wrthwynebiad ymostyngodd i'r brenin yn 1158; cymerwyd Ceredigion a rhan helaeth o Ystrad Tywi oddi arno, a bu raid iddo hefyd gydnabod awdurdod uwch y brenin dros diriogaethau ei gyndadau yng Nghantref Mawr. At y weithred hon o wrogaeth, ymddengys i Rys orfod cytuno hefyd i beidio mwyach â'i alw ei hun yn frenin, oblegid o hyn ymlaen fe'i disgrifir yn y croniclau bod amser fel ' Yr Arglwydd Rhys ' - gweler Owain Gwynedd a Madog ap Maredudd.

Am y saith mlynedd nesaf y mae gwrthryfeloedd a chytundebau ysbeidiol y cyfnod yma yn dyst i'w anesmwythyd a'i uchelgais ofer, ond cafodd ei gyfle yng ngwrthryfel mawr 1164-5. Yr oedd Harri ar y pryd yn brysur yn ei wlad ei hun, a chymerth Rhys Geredigion ac Emlyn i'w feddiant (gan gynnwys caerau Aberteifi a Chilgerran) ac yn fuan iawn fe'i cafodd ei hun yn ôl yn y safle a gymerasid oddi arno yn 1158. Otherwydd nifer o amgylchiadau ffafriol, llwyddodd hyd ddiwedd ei oes i ddal ei afael yn llwyr ar y tiroedd hyn, ac yn wir, i ychwanegu atynt rannau o Ddyfed. Ychydig o berygl a oedd iddo i'w ofni o gyfeiriad na Phowys na Gwynedd ar ôl y flwyddyn 1170 pan fu farw Owain Gwynedd; tua'r un adeg yr oedd y mwyaf terfysglyd o Normaniaid Dyfed yn cynorthwyo yn y goresgyn ar Iwerddon, a chafodd Harri gymaint o ofn yr ymgyrch honno, ac yntau eisoes wedi colli ei enw da gyda llofruddiaeth Thomas à Becket, fel y penderfynodd geisio cyfeillach Rhys. Cadarnhawyd awdurdod Rhys ar Ddeheubarth, a gwnaed ef yn Ustus De Cymru, a'i gydnabod fel teyrn Cymreig mwyaf blaenllaw ei gyfnod. O ganlyniad, ymwrthododd yntau â phob hawl i statws frenhinol ei hynafiaid, gan ymfodloni ar y gallu a oedd yn barod yn ei ddwylo a mynd ati i gydweithredu yn deyrngarol â'r brenin a chychwyn ffasiwn ymysg ei gyd-reolwyr yng Nghymru trwy fabwysiadu dulliau gwisgo ac arferion teuluol y Normaniaid a dilyn eu hesiampl hefyd mewn materion llysol a gwladwriaethol. Dechreuwyd adeiladu castell yn y dull newydd yn Ninefwr, yr hen brif 'ddinas'; yn Aberteifi hefyd fe godwyd caer arall gyffelyb, sef honno y cynhaliwyd ynddi 'eisteddfod' enwog 1176 o dan nawdd Rhys. Rhoes ei gefnogaeth i urddau mynachaidd newydd yr oes ac yr oedd ganddo ddiddordeb yn lles crefyddol ei ddeiliaid; cafodd y Tŷ-gwyn-ar-Daf ei nawdd, ef oedd gwir sefydlydd Ystrad Fflur, ac yr oedd Talyllychau yn greadigaeth arbennig o'i eiddo.

Cymylwyd ar ei flynyddoedd olaf gan elyniaeth a dygasedd ei feibion a chan ddifaterwch y llywodraeth newydd o dan Richard I tuag at y safle arbennig a ddaliasai Rhys hyd yn hyn. Gan gredu mai trwy ymosod y gallai ei amddiffyn ei hun orau, ailddechreuodd ymladd â'i gymdogion Normanaidd, a pharhaodd y brwydro hyd ddiwedd ei oes. Bu farw 28 Ebrill 1197 a chladdwyd ef yn eglwys gadeiriol Tyddewi. O'i wraig, Gwenllian ferch Madog ap Maredudd, ganed iddo wyth mab (gweler Gruffydd ap Rhys, Rhys Gryg, Maelgwn) a merch, Gwenllian, a briododd Ednyfed Fychan.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.