MAELGWN ap RHYS (c. 1170 - 1230), arglwydd Ceredigion

Enw: Maelgwn ap Rhys
Dyddiad geni: c. 1170
Dyddiad marw: 1230
Plentyn: Maelgwn Fychan
Rhiant: Gwenllian ferch Madog ap Maredudd
Rhiant: Rhys ap Gruffydd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arglwydd Ceredigion
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

mab yr arglwydd Rhys a Gwenllian, ferch Madog ap Maredudd. Ymddengys am y tro cyntaf yng ngwarchae Dinbych-y-pysgod yn 1187; cymerth arno arwydd y groes pan fu Gerallt Gymro yn teithio trwy Gymru yn 1188. Un byr o gorffolaeth ydoedd, terfysglyd ac ymladdgar, a pharodd ei ymarweddiad gryn ofid i'w dad yn ei flynyddoedd olaf. Yr oedd yn garcharor o 1189 hyd 1194 ac yn alltud pan fu Rhys farw yn 1197. Dychwelodd gan benderfynu cael cyfran o diroedd y teulu a thrwy hynny parodd lawer o helynt ac anesmwythyd i'w frawd Gruffydd, ei elyn mwyaf ffyrnig, ac ar ôl 1201, pan fu Gruffydd farw, i'w neiaint, Rhys ac Owain. Trwy ymgynghreirio â Gwenwynwyn a'r brenin John cafodd, yn 1199, arglwyddiaeth Ceredigion, eithr cymerwyd y cymydau gogleddol oddi arno gan Lywelyn yn 1207. Ei fethiant i adennill y tir hwn wedi iddo helpu John i ennill buddugoliaeth ar Lywelyn yn 1211 a barodd iddo, y mae'n fwy na thebyg, fynd drosodd ac ymuno â phlaid Llywelyn. Gwelir, fodd bynnag, nad oedd cred Llywelyn ynddo ddim yn ddiysgog oblegid pan aethpwyd i rannu tiroedd yr arglwydd Rhys o dan nawdd Llywelyn yn 1216 cadwyd Maelgwn allan o'r holl diroedd uwchlaw afon Aeron. Bu farw yn Llannerch Aeron yn 1230; claddwyd ef yn Ystrad Fflur; a dilynwyd ef gan ei fab, Maelgwn Fychan.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.