ANARAWD ap GRUFFYDD (bu farw 1143), tywysog.

Enw: Anarawd Ap Gruffydd
Dyddiad marw: 1143
Plentyn: Einion ap Anarawd
Rhiant: Gruffydd ap Rhys ap Tewdwr
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: tywysog
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: John Edward Lloyd

Mab hynaf Gruffydd ap Rhys ap Tewdwr; pan fu farw ei dad yn 1137 fe'i dilynodd fel arweinydd gwŷr Deheubarth. Eisoes, er ieuenged oedd, yr oedd wedi dangos peth ysbryd annibynnol yn y flwyddyn honno; dengys cronicl Tyddewi iddo, heb ganiatâd ei dad, ladd ‘Letard frenin bach ' — gormeswr o'r cylch a oedd o'i gartref yn Nhreletert yn gormesu ar glerigwyr a thrigolion morynys Pebidiawg.

Yn 1138, gyda'i frawd Cadell, ymunodd Anarawd ag Owain a Chadwaladr, a oedd y pryd hwn ag awdurdod ganddynt ar Geredigion, i ymosod ar gastell Aberteifi, a ddelid o hyd gan y Normaniaid; daeth llu cryf o longau'r Vikingiaid i aber Teifi i gynorthwyo'r ymgyrch; eithr cytunwyd ar heddwch a pheidiwyd â rhyfela.

Ceir Anarawd eto'n ochri gyda gwŷr y Gogledd yn 1140 pan apeliodd Owain a Chadwaladr at yr esgob Bernard i'w cynorthwyo hwynt pan oeddynt yn gwrthwynebu dewis Meurig yn esgob Bangor; awgrymodd Anarawd alw cynhadledd yn Aberdyfi a gwahodd pennaeth y De iddi. Eithr nid oedd y cyfeillgarwch hwn i barhau; yn 1143 llofruddiwyd Anarawd trwy drais gan wŷr arfog Cadwaladr, ar waethaf y cysylltiadau priodasol rhwng y ddau deulu. Dangosodd Owain ei atgasedd o'r trychineb hwn trwy ymlid ei frawd o ogledd Ceredigion a'i orfodi i lochesu yng ngogledd Iwerddon.

Gadawodd Anarawd fab, EINION, a laddwyd yn 1163 gan ei was ei hun, Walter ap Llywarch, yn ôl gorchymyn — felly y credid — yr iarll Roger o Henffordd. Oddi wrth yr hanes gellid barnu bod Einion yn benteulu (sef pennaeth gwŷr arfog) yr Arglwydd Rhys.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/