Clerigwr Normanaidd, na wyddys ddim am ei dras, a ddechreuodd ei yrfa'n gaplan i'r frenhines Matilda, ac a ddaeth yn ganghellor iddi yn ddiweddarach. Pan fu'r esgob Wilfrid farw yn 1115 penderfynodd Harri I y dylid gorffen â'r gyfres o esgobion Cymreig a chwpláu concwest Cymru trwy ethol un o'r tu allan. Gwysiwyd cynrychiolwyr 'clas' Tyddewi i Lundain, ac yno, 18 Medi, parwyd iddynt ethol Bernard. Fe'i hordeiniwyd yn offeiriad yn Southwark yr un dydd, gwnaeth y broffes arferol o ufudd-dod i Gaergaint, a derbyniodd dan law y brenin gadarnhad o hawliau a breintiau'r esgobaeth. Ar y 19eg fe'i cysegrwyd yn Westminster gan yr archesgob Ralph, gyda chwech esgob yn cynorthwyo yn y gwasanaeth. Yr oedd y frenhines a William y mab yno hefyd.
Ar lawer cyfrif nid oedd y prelad newydd yn gymwys i'r swydd. Yr oedd yn ysgolhaig da, a chanddo ddoniau a phrofiad yn y llys. Eithr ni ellid disgwyl y câi ei ethol dderbyniad da yng Nghymru; dywed croniclydd Llanbadarn gymaint y teimlid y fath sarhad gan glerigwyr Cymru. Ac ni fu i Bernard ychwaith ddangos ei fod yn awyddus i'w gyfrif ei hun yr un un â'r bobl o dan ei ofal. Am flynyddoedd lawer, yn wr y llys a thrafaeliwr diflino y'i dangosodd ei hun. Bu yng Nghyngor Rheims yn 1119 ac yn yr un a'i dilynodd yn 1131, yn Rhufain yn 1123 a 1129, ac yn Normandy yn 1119, 1126, a 1129. Yr oedd yn bresennol pan gysegrwyd esgobion yng Nghaergaint, Lambeth, ac Abingdon; bu'n dyst mewn amryw fannau pan wneid grantiau i gyrff crefyddol. Cofnodir hyn oll mewn ysgrifeniadau cyfoes; am yr hyn a wnaeth yn ei esgobaeth ei hun, rhaid dibynnu âr gofnodion diweddarach neu ddyfalu. Ceir prawf dilys yng nghronicl Battle Abbey iddo drefnu i'r abaty hwnnw golli rhai o eglwysi tref Gaerfyrddin, er mwyn gwneuthur lle i gwfaint o ganoniaid Awstinaidd a sefydlasai ef ei hun; dywed croniclydd Cymreig iddo yn 1144 roddi tir yn Nhrefgarn Fechan yn Neugleddyf i fynachod Sistersaidd - y cyntaf o'r urdd honno i gartrefu yng ngorllewin Cymru. Gan Gerallt Gymro, a ysgrifennai bron ganrif yn ddiweddarach, y cawn ddisgrifiad o'r hyn a wnaeth Bernard i ddiwygio'r cabidwl - sef trwy ddewis cael canoniaid seciwlaraidd yn derbyn cyflogau penodedig, yn lle 'claswyr' y Cymry yn defnyddio cyllid yr Eglwys fel un corff. Gellir bod yn bur ddiogel wrth gasglu oddi wrth y ffeithiau gwybyddus mai efe a sefydlodd bedair archddiaconiaeth yr esgobaeth; nid yw mor sicr fod 'cyflwyniad' yr eglwys gadeiriol yn 1131 yn gyfystyr ag ailadeiladu. A hefyd, cyn y gellir rhoddi iddo'r clod am gael canoneiddio Dewi, rhaid bod yn gwbl sicr i hynny ddigwydd yn ei amser ef.
Serch hynny yr oedd yn ymladdwr egnïol dros freintiau ei esgobaeth, a bu iddo ran bwysig mewn dau wrthdarawiad o bwys mawr. Cychwynnodd y cyntaf pan ymdrechodd Urban, esgob Llandaf, geisio ychwanegu tiroedd Ystrad Yw, Gwyr, Cydweli, a Chantref Bychan at ei esgobaeth ef a thrwy hynny estyn ei ffin o ddyffryn Tawe hyd at ddyffryn Tywi. Gan na chafodd ddim cymorth yng Nghyngor Westminster yn 1127, apeliodd Urban at y pab, a derbyniodd gan Honorius II, pan nad oedd gwrthwynebiad, ddyfarniad mewn rhan o blaid ei gais. Cafwyd dyfarniad cyffelyb pan aeth Urban ar ail siwrnai i Rufain yn 1129; eithr ymhen ychydig ddyddiau daeth Bernard yno a llwyddo i gael gohirio'r mater am flwyddyn a hanner. Fodd bynnag, pan ddaeth y flwyddyn honno, sef 1130, yr oedd pab newydd yn Rhufain. Ar y cyntaf tueddai Innocent II i bleidio hawl Llandaf a threfnwyd i benderfynu'r achos yng Nghyngor Rheims yn 1131. Erbyn hyn yr oedd Urban yn heneiddio, a rhoes afiechyd yn rheswm dros beidio dod i Rheims, a chan fod Bernard yn barod i ddadlau ei achos ei hun dechreuodd yr hynafgwr golli'r dydd. Yr oedd y cwestiwn yn parhau'n benagored, fodd bynnag, ac felly y parhaodd nes i esgob Llandaf farw yn haf 1133, ac yntau unwaith yn rhagor wedi dyfod i wasanaethu'r pab. Nid ailagorwyd mo'r mater mwy.
Er iddo ennill y dydd yn yr ornest hon, rhaid oedd i Bernard wynebu ar waith caletach yn ei ail ymdrech. Y tro hwn ceisio yr ydoedd gael ei gydnabod yn ben ar esgobion Cymru i gyd, sef cael ei gyfrif yn archesgob. Gan iddo gael ei siomi am na chawsai ei symud o Dyddewi i esgobaeth arall, troes yn ôl ar yr hen gais hwn gan gwbl gredu y câi gymorth ei hen gyfaill y brenin; yn wir, dywed Gerallt Gymro i Bernard fynd cyn belled â pheri cael cario'r groes archesgobol o'i flaen, ar adegau, ar ei deithiau trwy Gymru. Nid oes dim prawf i Harri gymeradwyo ei gais ac ni chaed dim tro ar fyd pan fu farw'r brenin yn 1135. Dywed Henry o Huntingdon i Bernard dderbyn y 'pallium' archesgobol gan y pab ond iddo golli'r fantell yn union deg ac felly golli arwydd ei fuddugoliaeth ar Gaergaint. Nid oes wybod pa bryd y digwyddodd iddo golli'r pall; efallai mai yn ystod y Rhyfel Cartrefol pan oedd Bernard, fel y gellid disgwyl, ar du Matilda. Pa sut bynnag, ni bu i'w lafur diflino dros urddas ei esgobaeth, sef y llafur y ceir cadarnhad ohono gan groniclydd Llanbadarn, ei ddwyn ymhellach yn 1144 na chael addewid gan Lucius II y cai cenhadon y pab a oedd yn myned i Loegr chwilio i mewn i'r mater ac adrodd wrtho ef. Nid cyn Mehefin 1147 y cafwyd math o benderfyniad. Ym Meaux, gerllaw Paris, barnodd Eugenius III yn erbyn hawl bersonol Bernard ei hun, gan fod tystiolaeth sicr iddo wneud proffes o ufudd-dod i Gaergaint pan gysegrwyd ef, eithr gohiriwyd cwestiwn statws Tyddewi. Yr oedd hyn i'w drin ym mis Hydref 1148 eithr bu Bernard farw yn y cyfamser. Ac yr oedd y cyfnod o dair blynedd ar ddeg ar hugain wedi peri newid ar agwedd croniclydd Llanbadarn, ac fe'i ceir yn cofnodi marw'r esgob mewn geiriau sy'n dangos iddo ddyfod i'w edmygu'n fawr.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.