GRUFFYDD ap RHYS (c. 1090 - 1137) tywysog Deheubarth

Enw: Gruffydd ap Rhys
Dyddiad geni: c. 1090
Dyddiad marw: 1137
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: tywysog Deheubarth
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

Mab Rhys ap Tewdwr a Gwladus, merch Rhiwallon ap Cynfyn. Pan dorrodd hen frenhiniaeth y De i lawr ar farw Rhys ap Tewdwr yn 1093, aethpwyd â'r aer, Gruffydd, nad oedd eto namyn plentyn, i Iwerddon, lle y cafodd gartref a lloches yn ystod ei blentyndod a thra yr ydoedd yn tyfu i fod yn ddyn. Pan ddychwelodd yn 1113 amharwyd ar gymorth gwlatgar ei gyfoedion ieuanc gan agwedd ofnus a gofalus rhai personau o awdurdod yn y wlad nad oedd eto'n teimlo y dylid gwrthsefyll teyrnasiad y Normaniaid. Ymhlith y personau hyn yr oedd Gruffydd ap Cynan, a oedd yn barod i drosglwyddo ei gâr ieuanc i Harri I pan geisiodd hwnnw, sef Gruffydd ap Rhys, loches yng Ngwynedd. Yr oedd y safiad gwrthwynebol a gyrhaeddodd ei uchafbwynt yn y gwrthryfel yn 1116 yn rhwym o fethu yn ei amcan. Serch hynny daeth Gruffydd ap Rhys i delerau â Harri a rhoddwyd iddo dir yng nghymwd Caeo. Oddigerth am gyfnod byr yn 1127 pryd y bu'n alltud yn Iwerddon am yr eiltro, ymddengys i Gruffydd dreulio bywyd tawel yn y Deheubarth hyd ar ôl marw Harri. Yno, y mae'n ddiau, y ganed Maredudd a Rhys, ei feibion o Gwenllian, merch Gruffydd ap Cynan; y mae'n debyg mai meibion o uniad cynharach oedd Anarawd a Chadell. Cymerth ran flaenllaw yn y gwrthryfel a ymledodd trwy Gymru pan fu Harri farw ac yr oedd yn bresennol ym mrwydr bwysig Crug Mawr, 1136. Bu farw y flwyddyn wedyn; yr oedd Gwenllian, ei wraig nodedig, wedi marw o'i flaen. Ei fab ieuengaf, Rhys, a gafodd y gwaith o ail-sefydlu ffortiwn y teulu.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.