mab hynaf Gruffydd ap Rhys a Gwenllian, merch Gruffudd ap Cynan. Chwe mlwydd oed oedd pan fu ei dad farw. Daeth i amlygrwydd pan oedd yn 16 oed wrth gynorthwyo ei hanner-brawd, Cadell, i ymlid y Normaniaid o Geredigion ac wrth amddiffyn caer Caerfyrddin a gymerasid ychydig yn gynt. Yn 1151 chwaraeodd ran flaenllaw yn y gorchwyl o ymlid gwyr Gwynedd yn ôl y tu hwnt i afon Ddyfi; yn yr un flwyddyn cwympodd baich arwain yn y De ar ei ysgwyddau oblegid anallu Cadell. Bu farw bedair blynedd yn ddiweddarach yn yr oed cynnar o 25, eithr wedi ennill iddo'i hun enw ardderchog mewn rhyfel a heddwch a chan drosglwyddo ei faich i frawd iau - yr arglwydd Rhys wedi hynny.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/