EINION ap GWALCHMAI (fl. 1203-23), bardd

Enw: Einion Ap Gwalchmai
Priod: Angharad ferch Ednyfed Fychan
Rhiant: Gwalchmai ap Meilyr
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: David Myrddin Lloyd

Ceir darn awdl o'i waith i Lywelyn ab Iorwerth, lle sonnir am wrhydri'r tywysog hwnnw yn erbyn Saeson, ac a genid felly wedi tro'r ganrif yn ôl pob tebyg. Cyfansoddodd hefyd awdl-farwnad firain i Nest ferch Hywel, o Dywyn, Meirionnydd, ac y mae tair awdl i Dduw o'i waith i'w cael. Yn un o'r rhain sonia am ei fwriad i fynd ar bererindod dros fynydd Mynnau (yr Alpau) i wlad Canaan. A barnu wrth ei waith bu iddo ran amlwg ym mywyd llys, ond 'gwedi gwasanaeth y penaetheu' y mae'n teimlo mai addfwynach yw moli Duw, a 'gwyn eu byd fyneich fewn eglwyseu.' Dymuna ddiweddu ei ddyddiau yn Enlli, ac y mae awgrym mewn cerdd dduwiol arall o'i waith iddo droi'n fynach, oblegid dywed: 'Cadwn freint deweint, canys defawd …. Na chysgwn, canwn canon arawd.' Y mae ei ganu crefyddol, fel ei farwnad i Nest, yn felys ac yn afaelgar, ac y mae'n amlwg ei fod yn ei ddydd yn fardd poblogaidd, a dywed Gwilym Ddu o Arfon amdano (The Myvyrian Archaiology of Wales , 277B): 'A ganai, ffynnai fel berw ffynnawn.' Prawf arall o'i boblogrwydd yw iddo dyfu'n gymeriad llên gwerin. Ceir chwedl amdano yn neidio 50 troedfedd yn Abernodwydd yng ngwydd ei gariad pan oedd yn wr ifanc, amdano'n mynd i bererindota, ac yn aros oddi cartref am 21 o flynyddoedd, yna'n dychwelyd, a'i wraig (sef, yn ôl y chwedl, a'r englynion ynddi, Angharad, ferch Ednyfed Fychan) newydd briodi gwr arall ond yn ei adnabod wrth iddo ganu'r delyn a dangos hanner y fodrwy briodas a gadwasai, a chwedl arall am y ' brawd ' Gwryd yn ei iacháu o anhwyldeb a fuasai arno saith mlynedd. Mewn englyn arall sydd ynglyn â'r ail chwedl dywedir yn bendant mai mab Gwalchmai ap Meilyr ydoedd, ac y mae'n dra thebyg fod hynny yn wir.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.