MAELGWN ab OWAIN GWYNEDD (bu farw ar ôl 1173),
Enw: Maelgwn Ab Owain Gwynedd
Dyddiad marw: 1173
Rhiant: Gwladus ferch Llywarch ap Trahaearn
Rhiant: Owain ap Gruffydd ap Cynan
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce
mab Owain Gwynedd a Gwladus ferch Llywarch ap Trahaearn, brawd unfam i Iorwerth Drwyndwn ac ewythr Llywelyn I. Pan rannwyd y tiroedd y teyrnasai ei dad drostynt rhoddwyd Môn i Faelgwn, eithr gyrrwyd ef allan o'r ynys yn 1173 gan ei hannerbrawd, Dafydd I. Ffodd i Iwerddon, dychwelodd yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn, a chymerwyd ef yn garcharor. Ni wyddys mo'i hanes wedi hynny.
Awdur
- Yr Athro Thomas Jones Pierce, (1905 - 1964)
Ffynonellau
- A History of Wales: from the Earliest Times to the Edwardian Conquest (London 1912)
Darllen Pellach
- Erthygl Wicipedia: Maelgwn ab Owain Gwynedd
Dolenni Ychwanegol
- Wikidata: Q2253153
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/