GRUFFUDD LLWYD ap DAFYDD ab EINION LLYGLIW (fl. c. 1380-1410), bardd

Enw: Gruffudd Llwyd ap Dafydd ab Einion Llygliw
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

nai i'r bardd Hywel ab Einion Llygliw, a brodor o blwyf Llangadfan ym Mhowys; yn ôl marwnad Rhys Goch Eryri iddo ymddengys ei fod yn un o ddisgynyddion Einion Yrth. Yn Cardiff MS. 18 (190) dywedir ei fod yn ' siawnsler o eglwys Henffordd,' ond ni wyddys am ddim sy'n ategu hyn. Yr oedd yn un o feirdd pwysicaf a galluocaf ei gyfnod, ac yn gyfarwydd â hen lenyddiaeth a chwedloniaeth Cymru. Croesewid ef yn rhai o lysoedd enwocaf ei wlad, ac ymhlith ei gywyddau i uchelwyr ei gyfnod ceir rhai i Owain Glyndŵr, Syr Dafydd Hanmer, Owain ap Maredudd o'r Neuadd Wen, a Hywel a Meurug Llwyd o Nannau. Canodd gywyddau serch, a chywyddau ac awdlau crefyddol; efe hefyd biau'r cywydd i ddanfon yr haul i annerch Morgannwg, a briodolir hefyd i Iolo Goch ac i Dafydd ap Gwilym (gweler Bulletin of the Board of Celtic Studies, i). Cywydd marwnad Rhys Goch Eryri iddo oedd dechrau'r ymryson rhwng y bardd hwnnw a Llywelyn ap y Moel; canmolir Gruffudd hefyd yng nghywydd ateb Llywelyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.