HYWEL ab EINION LLYGLIW (fl. c. 1330-70), bardd

Enw: Hywel ab Einion Llygliw
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

Ewythr i'r bardd Gruffudd Llwyd ap Dafydd ab Einion Llygliw. Ni wyddys dim o'i hanes, ond cadwyd ei awdl serch i Myfanwy Fychan o gastell Dinas Bran, Llangollen, yn NLW MS 1553A (275), NLW MS 4973B (369b), NLW MS 6209E (216); argraffwyd hi yn The Myvyrian Archaiology of Wales , a cheir cyfieithiad Saesneg ohoni hefyd yn Pennant, Tours in Wales. Hywel ab Einion o Faelor y gelwir y bardd yn y cyntaf a'r olaf o'r llawysgrifau; ac yn ôl yr olaf cafwyd yr awdl wedi ei hysgrifennu ar femrwn yn un o furiau'r castell. Perthynas Myfanwy Fychan a'r bardd yw testun cân eisteddfodol John Ceiriog Hughes, ' Myfanwy Fychan.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.