RHYS GOCH ERYRI (fl. dechrau'r 15fed ganrif), bardd

Enw: Rhys Goch Eryri
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ifor Williams

o Feddgelert. Efallai mai ef oedd ‘un o'r rhai gorau ieuainc’ a enwir yng nghywydd y cwest (gan Gruffudd Llwyd, 1385?). Nid yw'r testun yn hollol sicr, ond gellir pwyso ar farwnad Rhys ei hun i Ruffudd, lle geilw ef ‘f'athro,’ a dweud ei fod agos yn ogyfoed iddo. Tybiodd Llywelyn ap Moel y Pantri fod sen i Bowys yn y farwnad honno, ac ymosododd yn huawdl ar Rys. Etyb yntau ‘Rhy hen wyf, a rhy fab wyd,’ a chadarnha hynny ei fod yn cyfoesi bron â Gruffudd. Sut bynnag, goroesodd Lywelyn a chanodd farwnad ar ei ôl yntau gan gyfeirio at diffyg ar yr haul a diffyg ar y lleuad adeg ei farw. Cynigir mai at ddiffyg cyflawn ar yr haul, 3 Chwefror 1440, y cyfeirir, a'r ddiffyg ar y lleuad ar 18 Chwefror yn yr un flwyddyn. Priodolir i Rys farwnad i Faredudd ap Cynwrig o Fôn, a fu farw yn 1448 neu ychydig cynt. Prin y bu Rhys ei hun fyw'n hir wedyn, a gellid rhoi ei dymor canu o tua 1385 hyd 1448. Claddwyd ef ym Meddgelert. Yn ôl traddodiad bu fyw yn Hafod Garegog, ac ategir hyn gan ei gyfeiriadau ef ei hun yn ei gywyddau at Eryri, mai yn yr ardal fynyddig honno yr oedd ei gartref. Ei ach yn ôl J. E. Griffith, Pedigrees, 199 (dan Hafod Garegog)’, oedd Rhys ap Dafydd ap Iorwerth ap Evan Llwyd ap Rhirid; yn ôl B.M. Add. MS. 14866 (511), Gwyneddon MS. 3 (161), Pen. MS. 112 (815), ‘ap Dafydd ab Ieuan Llwyd.’

Gellir amseru ei gywyddau i Wilym ap Gruffudd o'r Penrhyn, Syr William Tomas o Raglan, a Wiliam Fychan ap Gwilym o'r Penrhyn, yn hwylus yn y cyfnod hwn. Ni chadwyd cywydd ganddo i Owain Glyndŵr, er bod awgrymiadau yn ei ganu i deulu'r Penrhyn mai gyda phlaid Owain yr oedd ei gydymdeimlad ef. A thybio iddo ganu i'w bleidwyr, doethach er eu mwyn hwy yng nghyfnod y gorthrwm a ddilynodd y rhyfel oedd eu cadw o'r golwg. Diddorol yw ei gywydd i Feuno Sant a mwy diddorol fyth ei ymrysonau â Llywelyn ap y Moel, a'i ateb i ddychan Siôn Cent i'r Awen Gelwyddog. Y mae ei gywydd i'r Farf hefyd yn y traddodiad, ond nid oes gyfeiriadau amseryddol ynddo. Rhaid amau awduriaeth y cywydd i'r Faslart, oherwydd y cyfeiriad at Bowys; hefyd y cywydd i Syr Gruffudd Fychan, am yr un rheswm, ac ansicrwydd y llawysgrifau ar y pwnc. Felly hefyd y cywydd i'r llwynog i erchi iddo ladd paun Dafydd Nanmor, er mai dilys ddigon yw ei awdl ddychan i ‘Madyn lwynogyn.’

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/