O dan ei nawdd ef y mae Aberffraw, Trefdraeth, Clynnog, Penmorfa, Carngiwch, Pistyll, a Botwnnog yng Ngwynedd, a Llanycil, Gwyddelwern, Aberriw, a Betws Cydewain ym Mhowys; Llanfeuno yn Ewias Lacy ydyw'r unig gynrychiolydd yn y De. Clynnog (Celynnog yn wreiddiol) oedd y pwysicaf o lawer o'r sefydliadau hyn. Yn llawysgrif hynaf 'Dull Gwynedd' o gyfraith Hywel Dda ceir fod y corff clerigwyr a ddaliai Glynnog o dan yr enw 'clas Beuno' i warantu, gyda chlas Bangor, freiniau cyfreithiol cantref Arfon. Yn ôl traddodiad rhoddwyd y tir gan Wyddeint, cefnder Cadwallon brenin Gwynedd - tua 630, felly. Ceir yng nghofnodion hanes yr Eglwys restr faith o roddwyr eraill mewn amseroedd diweddarach; fe'i gwnaethant yn un o'r sefydliadau mwyaf cyfoethog yng ngogledd-orllewin Cymru. Coffeid enwogrwydd y nawdd-sant mewn amryw ddulliau yng Nghlynnog. Dengys Bedd Beuno'r fan y gorffwys ynddo; Ffynnon Beuno oedd ei ffynnon iacháu; a cheir Cored Beuno hefyd a Chyff Beuno, sef ei gist gref o dderw cadarn, Nod Beuno (sef y toriad ar glustiau gwartheg a gyflwynid iddo), a Llyfr Beuno yn cynnwys cofnod ei hawliau.
Er cymaint y cyfoeth hwn o bethau sy'n ei goffáu nid oes gan hanes fawr ddim i'w adrodd am y sant ei hunan. Yr unig 'fuchedd' a gadwyd ydyw braslun byr yn Gymraeg, tua 1350, a geir yn 'Llyfr Ancr Llanddewi Brefi.' Yn ôl hwn yr oedd yn disgyn o deulu brenhinol Morgannwg, wedi ei eni ar lan Hafren ym Mhowys, a'i addysgu yng Nghaerwent; fe ymsefydlodd yn Aberriw (nes iddo orfod ymadael pan ddaeth y Saeson), wedi hynny yng Ngwyddelwern, yn Nhreffynnon (lle y mae iddo ran yn hanes y santes Wenffrewi), ac, yn olaf oll, yng Nghlynnog lle y bu farw ar ddydd Sul y Pasg Bychan (yn ôl dull y Cymry o gyfrif). Gan y coffeid ei ŵyl ym mhobman o'r bron ar 21 Ebrill, efallai y gellir casglu mai 642 oedd blwyddyn ei farw.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.