GWENFFREWI, neu WINIFRED (fl. yn gynnar yn y 7fed ganrif), santes

Enw: Gwenffrewi
Rhiant: Gwenlo
Rhiant: Tevyth
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: santes
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Jones Pierce

Yr unig sylfaen i'w hanes ydyw'r traddodiadau sydd wedi eu corffori mewn ‘bucheddau’ yn perthyn i'r 12fed ganrif. Dywedir mai brodor o Degeingl (Sir y Fflint bellach) oedd Tevyth, ei thad; yn ôl achau diweddar yr oedd ei mam, Gwenlo, yn chwaer i Beuno Sant. Y mae'n weddol sicr fod iddi gyswllt clos â lledaeniad parch Beuno yng ngogledd-ddwyrain Cymru; ar y fan lle y mae ei chysegr hi yn Nhreffynnon, Sir y Fflint, lle yr adroddir iddi gael ei chodi o farw i fyw gan wyrth a gyflawnodd Beuno, safai (fe arferid credu) gapel a sefydlwyd gan y sant hwnnw. Y mae'n debyg hefyd mai gwir yr hanes iddi fod yn ddiweddarach mewn cyswllt agos â'r sant Eleri a threulio ei blynyddoedd olaf gyda honno yn Gwytherin, lle y claddwyd hi i gychwyn. Peth cymharol ddiweddar, fodd bynnag, oedd ei pharch personol hi ei hunan; ymddengys i hwnnw ddatblygu o dan nawdd abaty Amwythig lle y trosglwyddwyd ei gweddillion hi yn 1138 a lle hefyd y cynhullwyd y prif hanes am ei bywyd gan y prior Robert rhwng 1140 a 1167. Yr adeg honno, fodd bynnag, yr oedd ei pharch yn parhau i fod yn lleol ac felly y bu hyd nes, ymhellach ymlaen yn y Canol Oesoedd, y lledaenodd ei henwogrwydd hi ac enwogrwydd ei chysegrleoedd yn Nhreffynnon, Gwytherin, ac Amwythig yn fawr ac y daeth y santes i ennill sylw'r beirdd Cymreig a llunwyr bucheddau'r saint. Ddwywaith yn ystod y cyfnod diweddar hwnnw rhoddwyd datganiad archesgobaethol yn pennu y trydydd dydd o Dachwedd yn ŵylmabsant iddi.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/