Prin y gwyddys dim am ei fywyd. Gellir yn hyderus ddweud mai Siôn Cent oedd ei enw, er ei alw'n Siôn Gwent (er enghraifft gan Gruffydd Robert), yn Siôn y Cent, ac yn Siôn Kemp(t). Gelwir ef hefyd yn Ddoctor yn dra aml yn y llawysgrifau, ond nid yn y rhai hynaf. Y rheswm am yr amrywiaeth hwn yw'r cymysgu a fu yng nghof gwlad ar ororau Cymru a sir Henffordd rhyngddo a'r Dr. John Kent, Caerlleon, a addysgwyd yng Nghaergrawnt, enwog am ei ddysg amryddawn yn niwedd y 15fed ganrif, Dr. John Gwent, Brawd Llwyd dysgedig a gladdwyd yn Henffordd yn 1348, John Kemp, esgob ac archesgob (Caerefrog 1426, Caergaint 1452), a chardinal, a fu farw yn 1454, ac un John [a] Kent, tresbaswr direidus yn ardaloedd Henffordd a'r gororau yn 1482-3 yr enwogwyd ei gampau yn y ddrama John a Kent and John a Cumber gan Anthony Munday yn niwedd yr 16eg g.
Yr oedd Siôn Cent y bardd yn canu rhwng 1400 a 1430, hyd y gellir barnu wrth y ffeithiau tra phrin y gellir eu crafu o'i gywyddau. Canodd gywydd mawl i Frycheiniog, a ddengys o leiaf ei fod yn bur gyfarwydd â'r wlad honno ac yn hoff ohoni. Ond cywyddau crefyddol yw'r gweddill o'r gwaith a briodolir iddo - lawer ohono'n sicr ar gam. Ansicrwydd bywyd a'i holl bethau, sicrwydd angau a'r farn olaf, yw cylch ei destunau. Bu Rhys Goch Eryri a Llywelyn ap y Moel yn ymryson â'i gilydd ac yn trafod tarddiad awen, gan gytuno mai o'r Ysbryd Glân y daeth. Torrodd Siôn Cent i mewn i'r ddadl gan daeru mai awen gelwyddog oedd awen beirdd Cymru. Yn anffodus ni chadwyd o'r ffrae hon ond un cywydd gan Siôn Cent ac un gan Rys Goch yn ateb iddo. Mae'n weddol sicr bod o leiaf un cywydd gan Siôn Cent ar goll. Canodd am y byd a bywyd fel y gwelai ef, a digalon oedd gan mwyaf, er ei fod ar dro'n ymloywi wrth sôn am y nef. Ceir yn ei gywyddau un nodwedd anghyffredin, sef torri cywydd yn adrannau, a rhoi'r un llinell fel byrdwn i gloi pob adran.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.