LLYWELYN ap MOEL y PANTRI (bu farw 1440), bardd

Enw: Llywelyn ap Moel Y Pantri
Dyddiad marw: 1440
Plentyn: Owain ap Llywelyn ab y Moel
Rhiant: Llywelyn
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

O Lanwnnog yn Sir Drefaldwyn; mab i'r bardd (Llywelyn ?), a lysenwid Moel y Pantri, a thad i'r bardd Owain ap Llywelyn ap Moel y Pantri. Yr oedd yn ddisgybl i Rys ap Dafydd ab Iorwerth. Ymhlith ei farddoniaeth a erys ceir ei gywyddau i ferch a elwir Euron, cywydd ar lun ymddiddan rhwng y bardd a'i bwrs gwag, a nifer o gywyddau ymryson i Guto'r Glyn. Canodd hefyd ddau gywydd cellweirus i'r herwyr a lechai yng Nghoed y Graig, a gellir meddwl ei fod yntau yn un ohonynt. Trodd at grefydd cyn ei farw, a chladdwyd ef ym mynachlog Ystrad Marchell. Canodd Guto'r Glyn a Rhys Goch Eryri gywyddau marwnad iddo.

Ymddengys bod peth o'i waith wedi ei gambriodoli i Iolo Goch (gweler I.G.E., arg. 1925, cxxxiii); ac awgrymir nad efe ond ei dad (sef Moel y Pantri) biau ddau gywydd arall a briodolir i Lywelyn mewn rhai llawysgrifau (I.G.E., arg. 1925), cxxix.

Ni wyddys unrhyw fanylion am fywyd ei fab, OWAIN, ond cadwyd llawer o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau; gweler Jones a Lewis, Mynegai; Bodewryd MS 1D ; Brogyntyn MSS. 1, 2, 6; Cwrtmawr MS 312B ; Gwysaney MS. 25; NLW MS 16B , NLW MS 1553A , NLW MS 6681B , NLW MS 8330B . Yn ei phlith ceir cywyddau i Watcyn Fychan o Hergest, Dafydd Llwyd Fychan o'r Hafod Wen, Gruffudd ap Meredudd o Aberriw, Edward ap Hywel ab Ieuan Llwyd o'r Faenor, a llawer o foneddigion cyfoes eraill.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.