Yn ôl ei dystiolaeth ef ei hun ganwyd yr hynafiaethydd hwn yn Nanteos Arms, Llanbadarn Fawr, Ceredigion. Bedyddiwyd ef yn eglwys y plwy hwnnw, 20 Mawrth 1824, gan William Herbert, curad, fel mab Lewis Rowland, Tynewydd, ac Anne ei wraig, merch John Griffiths, goruchwyliwr ar stad Nanteos. Yr oedd ei daid, Thomas Rowland, Ffynnon-wen, yn heliwr enwog ac ar delerau cyfeillgar â theulu Prysiaid Gogerddan. Bu farw y tad pan nad oedd John ond 4 oed, ac o hynny ymlaen gan ei nain yn Ffynnon-wen y magwyd ef. Byddai'n bugeilio dros yr hafau gan gael ychydig addysg yn y gaeafau mewn ysgol a gedwid yn y Caeau Bach ar stad yr Hafodau gan Isaac Jenkins. Wedi marw ei nain (Ffynnon-wen) aeth at ei daid John Griffiths, a thrwy hynny daeth yn gyfeillgar â theulu Poweliaid Nanteos. Priododd ei fam eilwaith. Saer ac adeiladydd o Landdewibrefi oedd David James, ei hail ŵr, a symudodd y teulu yn ddiweddarach i Bontlotyn. Yr oedd teulu David James yn eglwyswyr selog yng Ngheredigion ac ym Morgannwg. O dan aden ei lysdad prentisiwyd y bachgen i alwedigaeth saer a bu wrthi am 3 blynedd. Erbyn hyn magasai chwaeth at ddarllen ac erbyn ei fod yn 15 oed yr oedd yn ohebydd lleol i'r Carmarthen Journal. Dechreuwyd ei alw yn 'Brutus Bach' am fod ei arddull yn debyg i eiddo David Owen, 'Brutus'. Yn 1848 aeth i'r coleg hyfforddi athrawon newydd yng Nghaerfyrddin lle y daeth i sylw Harry Longueville Jones. Ei ysgol gyntaf oedd un Llangynnwr yn 1850. Symudodd i Landybïe yn 1851, ac oddiyno i Lanelli a Dinas Powys. Yn niwedd 1864 aeth i Cheltenham yn ysgrifennydd Cymreig i Syr Thomas Phillipps, dros yr hwn y buasai'n copïo cofebau yng Nghymru ers mis Awst 1863. Disgrifiai Giraldus ei hun fel llyfrgellydd Cymraeg i Syr Thomas Phillipps, ac yn ddiamau bu'n cynorthwyo yn ei lyfrgell odidog. Yng ngwanwyn a haf 1865 yr oedd eto'n copïo cofebau a beddfeini yn siroedd Penfro a Morgannwg. Cyhoeddwyd rhai Morgannwg yng ngwasg breifat Middle Hill yn 1865 o dan y teitl, Glamorganshire Monuments a rhai Sir Gaerfyrddin fel Carmarthenshire monumental inscriptions. Gadawodd Thirlestaine House ar 4 Medi 1865. Mewn erthygl yn Yr Haul am fis Hydref 1873 rhydd Rowlands ei ochr ef i hanes ei wasanaeth gyda'r llyfrbryf od, a dweud y lleiaf, o'r braidd y gellid disgwyl i ddau o natur wyllt gytuno, un yn achwyn fod y llall yn copïo'n anghywir a'r llall yn cwyno am fychander y tâl. I ennill bywioliaeth fain byddai'n rhaid i Rowlands gopïo'n gyflym iawn ar y raddfa isel a ganiateid iddo. Ar wahan iddo droi eto at newyddiaduraeth y mae ansicrwydd am symudiadau Giraldus am rai misoedd. Yn ôl un a'i geilw'i hun yn 'Gwyn o Went' yn Yr Haul, 1881, tt. 201-3, mewn ysgrif arno, a seiliwyd i bob ymddangosiad ar wybodaeth gan y gwrthrych ei hun, cafodd swydd yn llyfrgell Llandaf sef llyfrgell Llandaff House (eiddo'r Cyrnol Bennett a adweinid yn well fel yr Uchgapten Richards) a werthwyd gan gwmni Sotheby ar 20 a 21 Ebrill 1871 (Cardiff Times). Yn ôl John Davies (1860 - 1939) cyhoeddwyd catalog o gynnwys y llyfrgell hon o waith Rowlands yn 1864. Ni wyddys am gopi o'r catalog hwn nac o'r catalog cyntaf o lyfrgell gyhoeddus Caerdydd y dywed yr un gŵr iddo'i wneud yn yr un cyfnod. Hwyrach iddo fynd i Gaerfyrddin i gadw ysgol. Beth bynnag, ar farwolaeth Brutus yn Ionawr 1866, penodwyd ef i gynorthwyo William Spurrell fel golygydd Yr Haul ac am lawer blwyddyn o dan yr enw 'Giraldus' bu'n cyfrannu erthyglau hanesyddol a hynafiaethol i'r cylchgrawn. Y mae sicrwydd iddo droi eto at gadw ysgol a hynny mewn ysgol waddoledig ym Medwas. Rhoddodd hon i fyny er mwyn ymuno â Hugh Williams ('Cadfan') i gychwyn Y Dywysogaeth yn 1870, a symudodd i Gaerfyrddin i roi ei holl amser i'r Wasg Eglwysig. Yng Nghaerdydd y cyhoeddodd ei Historical Notes on … Glamorgan, Carmarthen, and Cardigan, by John Rowlands, late librarian a gellir casglu mai yng nghyffiniau Caerdydd y preswyliai y pryd hwnnw. Ni wyddys pa bryd y gadawodd Caerfyrddin, ond dywed Edward Thomas ('Cochfarf'; Y Geninen, Mawrth 1908, 57) mai newydd ddyfod i 'Rhymni' fel ysgolfeistr yr oedd Rowlands pan welodd Thomas ef gyntaf yn 1879. Mae'n anodd penderfynu ai ym mhentref glofaol Rhymni ym mhen uchaf y cwm neu ym mhentref 'Rumney' sef Tredelerch, y tu allan i Gaerdydd ond yn awr yn rhan o'r ddinas, yr oedd Rowlands yn dysgu. Y cyntaf a awgrymir gan J. S. Jones yn ei Hanes Rhymni a Phontlottyn, 40, ond yn ddios at yr ail le y cyfeiria Cochfarf. Efallai iddo wasanaethu yn y ddau yn olynol. Fodd bynnag, yn ystod gaeaf 1883-4 parlyswyd Rowlands a syrthiodd i gryn dlodi. Fel canlyniad i apêl a ddechreuwyd gan glerigwyr blaenllaw yn Sir Forgannwg casglwyd swm sylweddol o arian a defnyddiwyd rhan ohono i brynu tŷ yn Broadway, Caerdydd, i Rowlands a'i wraig. Ymhellach, llwyddodd T. Marchant Williams i berswadio'r llywodraeth i roddi pensiwn athro iddo er nad oedd hyd ei wasanaeth yn ddigon i'w ennill iddo. Bu farw 4 Gorffennaf 1891 yn 67 oed a chladdwyd ef ym mynwent Tredelerch ar 8 Gorffennaf. Ceir nodyn byr arno yn Y Llan, ddeuddydd wedi'r angladd, yn tystiolaethu iddo fod 'yn ohebydd ffyddlon a diddorol i'r Llan a phapyrau Eglwysig Cymreig eraill am flynyddau lawer. Yr oedd yn ddyn siriol a boddlongar iawn, ac yn Eglwyswyr [ sic ] selog'. Yn ychwanegol at y llyfrau a enwyd uchod cyhoeddodd The Pedigree of the ancient family of Dolau Cothi, (Caerfyrddin, 1877), a Welsh Royalists, (Caerdydd, 1881).
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.