Ganwyd ym Mryncrug, ger Towyn, Sir Feirionnydd. Bwriodd ei brentisiaeth o dan Richard Jones, argraffydd, Dolgellau, a daeth yn enwog fel ysgrifennwr galluog ac fel dadleuwr ac amdiffynnydd selog i'r Eglwys Wladol. Ym mis Ionawr 1848, dechreuodd olygu ac argraffu papur eglwysig yn dwyn yr enw Y Cymro, a gyhoeddwyd i ddechrau ym Mangor. Yng Ngorffennaf 1849, trosglwyddodd berchenogaeth y papur i Shone, ond parhaodd fel golygydd hyd nes y symudwyd y papur i Lundain fis Hydref 1850. Ceir ' Cadfan ' yn nesaf yn Llundain yn dal swydd darllenydd yng ngwasanaeth y cyhoeddwr John Cassell. Yr oedd yn gyfeillgar â John Jones ('Talhaiarn') a William Jones ('Gwrgant'). a bu'n ysgrifennydd 'Cronfa Blwydd-dâl Talhaiarn' yn ystod 1863-5. Ceir papurau yn ymwneud â'r gronfa yn ogystal â llythyr yn llaw 'Cadfan' yn NLW MS 4511C . Yr oedd hefyd yn warden yr eglwys Gymraeg yn Llundain am flynyddoedd lawer. Yn 1870, dewiswyd ef yn olygydd cyntaf y papur Cymraeg eglwysig a elwid Y Dywysogaeth, ond bu farw 11 Gorffennaf 1870; claddwyd ef ym mynwent y Rhyl. 'Cadfan' oedd awdur Caban F'Ewyrth Twm, cyfieithiad Cymraeg o Uncle Tom's Cabin, a gyhoeddwyd gan Cassell yn 1853 gyda darluniau gan Cruickshank, a hefyd Llyfr Gweddi i Dŷ Gweddi, cyfieithiad Cymraeg o waith gan W. B. Stevens, diwinydd Americanaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.