Ganwyd yn Brwynog ym mhlwyf Llanfihangel, sir Drefaldwyn, mab Robert Jones, saer maen, a Margaret ei wraig. Wedi cyfnod o addysg yn ysgol y pentref, Meifod, cafodd ei rwymo gyda chyfreithiwr yn Llanfyllin. Symudodd oddi yno i Lanelwy ac wedyn i Lundain, lle y bu mewn busnes ar raddfa helaeth. Ysgrifennai i gyfnodolion Cymreig o dan yr enw ‘Gwilym Brwynog, a chyhoeddodd lyfr, Gwreiddiau yr Iaith Gymraeg. Yr oedd yn feirniad poblogaidd mewn eisteddfodau; efe a ddarllenodd, dros y ddau feirniad arall, y feirniadaeth yn eisteddfod Rhuddlan, 1850, a ddyfarnodd y wobr am farddoniaeth yn y mesurau rhyddion i Evan Evans (‘Ieuan Glan Geirionydd’). Trwy gydol ei oes yn Llundain cymerai ran flaenllaw ym mywyd Cymreig y brifddinas; yr oedd yn aelod o Gymdeithas y Cymreigyddion, yn gadeirydd cangen Llundain y Cambrian Institution ac yn aelod o Gymdeithas y Cymmrodorion. Bu'n llyfrgellydd y Cymmrodorion yn ystod eu hail gyfnod, yr oedd yn bresennol pan ddechreuwyd y trydydd cyfnod 30 mlynedd yn ddiweddarach, a bu'n gwasanaethu'r gymdeithas fel is-lywydd hyd ei f. yn 1886.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/