WILLIAMS, Syr THOMAS MARCHANT (1845 - 1914), bargyfreithiwr a llenor

Enw: Thomas Marchant Williams
Dyddiad geni: 1845
Dyddiad marw: 1914
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bargyfreithiwr a llenor
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Edward Morgan Humphreys

Ganwyd yn y Gadlys, Aberdâr, mab i löwr. Aeth i ' Ysgol y Comin,' Aberdâr, lle'r oedd Dan Isaac Davies yn brifathro, ac wedi cyrraedd safle disgybl-athro yno aeth i Goleg Normal Bangor yn 1864. Wedi cymryd ei dystysgrif bu'n athro ysgol yn Amlwch, yn ysgol y Garth, Bangor, ac mewn ysgol yn swydd Efrog, ond dychwelodd i Gymru i fod yn un o do cyntaf efrydwyr Coleg y Brifysgol, Aberystwyth. Cymerodd ei radd (B.A.) ym Mhrifysgol Llundain yn 1874, a phenodwyd ef yn arolygydd ysgolion dan Fwrdd Ysgol Llundain. Yn ystod ei arhosiad yn Llundain cymerodd ran flaenllaw ynglŷn ag ailgychwyn Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion a sefydlu Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Yr oedd yn gadeirydd cyngor Cymdeithas yr Eisteddfod ar ddiwedd ei oes. Penderfynodd fyned at y Bar, galwyd ef yn 1885, ac ymunodd â'r gylchdaith ddeheuol. Penodwyd ef yn ynad cyflog ym Merthyr Tydfil yn 1900 a daliodd y swydd honno hyd y diwedd. Yr oedd ei ddiddordeb yn yr eisteddfod a materion addysg yng Nghymru yn ddwfn. Ysgrifennodd lawer, gan gynnwys The Welsh Members of Parliament , 1894, disgrifiadau beirniadol a miniog, gyda darluniau gan Will Morgan; The Land of my Fathers; ac Odlau Serch a Bywyd, 1907, cyfrol fechan o farddoniaeth. Yn 1907 sefydlodd The Nationalist, cylchgrawn misol, ac fel golygydd hwnnw cafodd gyfle i arfer ei ddawn i ysgrifennu yn ddoniol a miniog am bobl a phethau yng Nghymru. Priododd yn 1883; gwnaed ef yn farchog yn 1904; bu farw yn ei gartref, Rhydyfelin, ger Llanfair-ym-Muellt, 27 Hydref 1914, a chladdwyd ef ym mynwent eglwys S. Ioan.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.