POWELL (TEULU), Nanteos (Llechwedd-dyrus cyn hynny), gerllaw Aberystwyth.

Y mae'r teulu hwn yn hawlio ei fod yn disgyn o Edwin ap Gronow, Tegeingl.

Dywedir mai Dafydd ap Philip ap Hywel oedd yr 'ap Hywel' (Powell) cyntaf a fu'n gysylltiedig â Llechwedd-dyrus, cartref cyntaf y teulu; yn ôl Peniarth MS 156 (gweler West Wales Historical Records, i) yr oedd ei wraig ef yn ferch i John ap Edward o Nanteos. Wyr iddynt hwy oedd Syr THOMAS POWELL, serjeant-at-law (1688), barwn yr Exchequer, a 'Judge of the King's Bench in Kg. James the Second's time' (Peniarth MS 156 ). Ei wraig ef oedd Elizabeth, merch ac aeres David Lloyd (Gwyn), Aberbrwynen, a mab iddynt oedd WILLIAM POWELL, a briododd Avarina, merch Cornelius le Brun a'i wraig Ann, merch a chyd-aeres John Jones, Nanteos.

Bu mab hynaf William Powell, sef

THOMAS POWELL (bu farw 1752)

yn aelod seneddol bwrdeisdref Aberteifi, 1725-7 a 1729-30, a sir Aberteifi, 1721, 1742-7. Priododd ef Mary, wyres Syr John Frederick, arglwydd faer Llundain (1662). Rhoes Thomas Powell £50 yn 1748 i helpu i adfer eglwys Aberteifi. Bu farw 16 Tachwedd 1752 ac aeth y stad i'r unig frawd a'i goroesodd, sef y

Parch. WILLIAM POWELL, D.C.L. (1705 - 1780)

(Buasai John Powell, y brawd arall, farw yn Affrica; gweler Peniarth MS 156 ).

Aeth William Powell o ysgol Henffordd i Goleg S. Ioan, Rhydychen, 14 Ionawr 1722/3, yn 17 oed (ymaelodi 1723, B.A. 1726/7, M.A. 1730). Ordeiniwyd ef yn ddiacon, yn esgobaeth Lincoln, 19 Medi 1731, a bu'n gurad yn Elton, swydd Huntingdon. Crewyd ef yn D.C.L. ar 8 Gorffennaf 1763 - cartrefai yn Nanteos y pryd hynny (Scott-Mayor, iii, 358; Foster, Alumni Oxonienses). Ceir cyfeiriadau mynych at Dr. Powell yn llythyrau Morysiaid Môn - gweler ' Index of Persons ' (Hugh Owen) - yn herwydd yr anghydfod rhyngddo a Lewis Morris ynglyn â gweithydd mwyn yn Sir Aberteifi; am fanylion gweler D. Lleufer Thomas, ' Lewis Morris in Cardiganshire,' yn Y Cymmrodor, xv.

Mab i Dr. William Powell a'i wraig Elizabeth (merch a chydaeres Athelstan Owen, Rhiwsaeson, Sir Drefaldwyn, a'i wraig Anna Corbet, Ynysmaengwyn, Sir Feirionnydd) oedd

THOMAS POWELL (1745? - 1797)

a briododd Eleanor, merch hynaf Edward Maurice Corbet, Ynysmaengwyn. Bu Thomas Powell yn siryf sir Aberteifi yn 1785. Ceir cyfeirio ato yn hanes y 'Welsh School,' Llundain (a gynrychiolir yn awr gan y Welsh Girls' School, Ashford, Middlesex); e.e. ef a osododd garreg sylfaen, yn 1771?, yr ysgol a godwyd yn Gray's Inn Road; gweler Rachel Leighton, Rise and Progress: The Story of the Welsh Girls' School, 1950. Yr oedd hefyd yn flaenllaw yng ngweithrediadau (hen) gymdeithas amaethyddol Sir Aberteifi; gweler Reports y gymdeithas honno am 1790, 1792, etc.

Mab iddo oedd

WILLIAM EDWARD POWELL (1788 - 1854)

Ganwyd ef 16 Chwefror 1788, a chafodd ei addysg yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen. Yr oedd yn arglwydd-raglaw sir Aberteifi, bu'n siryf yn 1810, ac yn aelod seneddol y sir 1816-54. Fel ei dad bu yntau'n ymddiddori yng ngwaith y gymdeithas amaethyddol; gweler Reports, 1804, 1807, 1812, 1815. Priododd (1), 1810, Laura Edwina (bu farw 1822), merch hynaf James Sackvile Tufton Phelp, Coston House, swydd Leicester, a (2) Harriett Dell, merch ieuengaf Henry Hutton, Cherry Willingham, swydd Lincoln. Bu farw 10 Ebrill 1854.

Ei aer, mab ei wraig gyntaf, oedd

[WILLIAM] THOMAS ROWLAND POWELL (1815 - 1878)

a anwyd 3 Awst 1815 ac a gafodd ei addysg yn Ysgol Westminster. Priododd, 1839, Rosa Edwyna, merch William George Cherry, Buckland, Swydd Henffordd. Bu'n aelod seneddol sir Aberteifi, 1859-65. Bu farw 13 Mai 1878.

Dilynwyd T. R. Powell gan ei fab,

GEORGE ERNEST JOHN POWELL (1842 - 1882), bardd a 'dyn od'

cyfaill A. C. Swinburne, H. W. Longfellow, etc. Ganwyd 10 Chwefror 1842. Ymaelododd ym Mhrifysgol Rhydychen (Coleg y Trwyn Pres), 23 Mai 1861. Priododd, 10 Mai 1881, Dinah T. Harries, Gwdig, Sir Benfro. Bu farw 17 Hydref 1882 a chladdwyd ef yn Llanbadarn Fawr.

Cyhoeddodd G. E. J. Powell Quod Libet (Aberystwyth, 1860); Poems, by Miolnir Nanteos (Aberystwyth, 1860); a Poems, by Miolnir Nanteos, Second Series (Aberystwyth, 1861); efe, gyda Eirikr Magnusson, a gyfieithodd Icelandic Legends Collected by Jon Arnasson (y gyfres gyntaf 1864, yr ail gyfres 1866). Y mae amryw lythyrau a ysgrifennodd Swinburne ato yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (ynghyd â chopi ohonynt a wnaethpwyd gan George Eyre Evans).

Bu farw'n ddi-etifedd a dilynwyd ef gan gefnder i'w dad, sef

WILLIAM BEAUCLERK POWELL (1834 - 1911)

mab Richard Owen Powell (bu farw 1859). Priododd W. B. Powell Anna Maria, merch David Lewis, Bronavon; mab iddynt hwy oedd EDWARD ATHELSTAN LEWIS POWELL (1870 - 1930), a briododd Margaret Louisa Joan, merch hynaf Syr Pryse Pryse, barwnig, Gogerddan. Collodd unig fab ac aer E. A. L. a Margaret Powell, sef Lieutenant WILLIAM EDWARD GEORGE PRYSE WYNNE POWELL (ganwyd 1899), Welsh Guards, ei fywyd mewn brwydr yn Ffrainc ar 6 Tachwedd 1918, ac felly pan fu ei dad farw yn 1930 daeth llinach wrywol Nanteos i ben.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.