SPURRELL (TEULU), Caerfyrddin

Y cyntaf o'r Spurrelliaid i ddyfod i dref Caerfyrddin oedd JOHN SPURRELL, o Bath, arwerthwr ac arolygydd stad un o deuluoedd y Manseliaid. Ymsefydlodd ef a'i wraig Sarah (Singers) yn Lower Market Street (Hall Street yn ddiweddarach) yn chwarter olaf y 18fed ganrif. Mab iddynt hwy oedd RICHARD SPURRELL, clerc i ustusiaid heddwch Sir Gaerfyrddin, a briododd Elizabeth Margaretta, merch Thomas Thomas, Frowen, gerllaw Llanboidy.

WILLIAM SPURRELL (1813 - 1889), argraffydd a chyhoeddwr

Trydydd mab Richard ac Elizabeth Spurrell. Ganwyd 30 Gorffennaf 1813 yn 13 Quay Street. Cafodd ei addysg (1821-9 neu 1830) yn ysgol ramadeg y frenhines Elisabeth, Caerfyrddin. Prentisiwyd ef gyda John Powell Davies, 58 King Street, Caerfyrddin, 1 Tachwedd 1830. Aeth i Lundain, 27 Gorffennaf 1835, i weithio yn swyddfa argraffu a chyhoeddi Bradbury ac Evans. Dychwelodd i Gaerfyrddin ar 26 Awst 1840 ac agorodd swyddfa argraffu yn Spurrell's Court yn y flwyddyn honno ac yn King Street yn 1841. O hynny ymlaen bu'n brysur yn argraffu a chyhoeddi llyfrau, rai ohonynt yn gyfrolau mawr, e.e. geiriadur Cymraeg-Saesneg yn 1848 a'r un Saesneg-Cymraeg yn 1853. Cafwyd ail argraffiad o'r gramadeg Cymraeg yn 1853. Daeth yn olygydd a pherchennog Yr Haul yn 1857 (rhifyn cyntaf, Ionawr 1857), gan barhau i'w gyhoeddi hyd 1884. Cychwynnodd Y Cyfaill Eglwysig yn 1862. Cyhoeddodd Carmarthen and its Neighbourhood yn 1860 (ail arg. yn 1879), a llyfr gwersi Cymraeg yn 1881. Gan ei fod yn berchennog gwasg argraffu bwysig nid ydyw'n syn deall fod gwŷr fel Daniel Silvan Evans, Morris Williams (‘Nicander '), John Rowlands (‘Giraldus '), etc., ymhlith ei lu cyfeillion a chydnabod ledled Cymru. Priododd, 1846, Sarah, ferch Evan Walter, Brynbach. Cododd ddau fab yn glerigwyr ac un yn feddyg; fe'i dilynwyd yn ei fusnes gan fab arall, sef Walter Spurrell. Bu farw 22 Ebrill 1889.

WALTER SPURRELL (1858 - 1934), argraffydd a chyhoeddwr

Ganwyd 19 Medi 1858, mab y William Spurrell diwethaf. Cafodd yntau ei addysg yn ysgol ramadeg y frenhines Elisabeth, Caerfyrddin, cyn mynd i ysgol yr eglwys gadeiriol yn Nhyddewi ac wedyn i'r Liverpool College. Wedi gadael yr ysgol aeth i fusnes ei dad, gan ddangos cyn bo hir ei fod yntau yn argraffydd ag iddo'r un safonau uchel. Priododd, 19 Medi 1893, Florence Mary, merch Frederick William Turner, Stoke Newington. Fel ei dad, cymerth Walter Spurrell lawer o ddiddordeb yn nhref a sir Caerfyrddin ac mewn mudiadau cenedlaethol. Cadwodd ymlaen y cysylltiad â chyhoeddiadau yr Eglwys yng Nghymru a gychwynnwyd gan ei dad. Ymysg gweithiau eraill a argraffwyd yng ngwasg William Spurrell gellir enwi 14 cyfrol y West Wales Records (1911-29) a Chylchgrawn Cymdeithas Lyfryddol Cymru. Yr oedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Hynafiaethol sir Gaerfyrddin.

I lu o Gymry cysylltir enw Walter Spurrell â ‘Geiriadur Bodfan, sef y geiriadur a gyhoeddodd William Spurrell wedi ei ddiwygio gan John Bodfan Anwyl. Cafwyd y 6ed argraffiad, sef ‘First Anwyl Edition,’ y gwaith Cymraeg-Saesneg, yn 1914, a 7fed argraffiad, sef ‘First Anwyl Edition,’ y gyfrol Saesneg-Cymraeg, yn 1916. Cafwyd amryw argraffiadau o'r ddau waith ar ôl hyn ynghyd ag argraffiad poced (y cyntaf yn 1919). Bu Walter Spurrell farw 23 Ebrill 1934.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/