ANWYL, JOHN BODVAN (‘Bodfan’; 1875 - 1949), gweinidog gyda'r Annibynwyr, geiriadurwr, ac awdur

Enw: John Bodvan Anwyl
Ffugenw: Bodfan
Dyddiad geni: 1875
Dyddiad marw: 1949
Rhiant: Ellen Anwyl (née Williams)
Rhiant: John Anwyl
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr, geiriadurwr, ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Thomas Herbert Parry-Williams

Ganwyd 27 Mehefin 1875 yng Nghaer, yn fab i John Anwyl, pregethwr cynorthwyol, o deulu Anwyliaid Caerwys, Sir y Fflint, ac Elen Williams ei wraig. Daeth yn weinidog ar eglwys Annibynnol Elim, Caerfyrddin, yn 1899. Oherwydd byddardod ymddeolodd o'i eglwys i gymryd gofal Sefydliad y Mud a'r Byddar, Pontypridd, Morgannwg, 1904-19. Ef, yn 1914, oedd yn gyfrifol am y chweched argraffiad o Eiriadur Cymraeg-Saesneg Spurrell; yn ddiweddarach, yn 1916, golygodd y seithfed argraffiad o Eiriadur Saesneg-Cymraeg Spurrell. Bu amryw argraffiadau pellach o'r rhain. Fe'i hapwyntiwyd yn 1921 yn Ysgrifennydd y Geiriadur Cymraeg oedd ar waith dan nawdd Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru. Ar ôl ymneilltuo o'r swydd hon, ymsefydlodd yn Llangwnadl, Sir Gaernarfon, lle y bu farw, trwy foddi, 23 Gorffennaf 1949; fe'i claddwyd ym mynwent Penllech, Sir Gaernarfon.

Yr oedd ‘Bodfan’ yn frawd i Syr EDWARD ANWYL. Fe gyfrannodd lawer iawn i newyddiaduron a chylchgronau Cymru. Golygodd adargraffiadau o Drych y Prif Oesoedd a Gweledigaethau y Bardd Cwsc. Ymhellach, ef oedd awdur Y Pulpud Bach (1924), Yr Arian Mawr (1934), Fy Hanes I Fy Hunan (1933), ac Englynion (1933), heblaw cyfieithiadau i Gymraeg o lyfrau a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Genhadol Llundain, megis Greatheart of Papua W. P. Nairne, 1915.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/