Ganwyd yng Nghaernarfon, 20 Awst 1809, mab William Morris a Sarah ei wraig (yr oedd hi'n chwaer i Peter Jones, ' Pedr Fardd '; bu'n forwyn ar fferm ' Dewi Wyn,' a William Morris yn was i 'Robert ap Gwilym Ddu'). Pan oedd ef yn blentyn symudodd y teulu (a oedd yn aelodau gyda'r Methodistiaid Calfinaidd) i'r Coed Cae Bach, Llangybi, Eifionydd. Bu yn yr ysgol yn Llanystumdwy, a phrentisiwyd ef yn saer; dechreuodd brydyddu yn ieuanc, ac yn 1827 cyfansoddodd ' Awdl ar y Pedwar Mesur ar Hugain Cerdd Dafod, defnyddiau yr hon ydynt Enwau Priodol o'r Ysgrythyr Lan … er difyrwch i hoffwyr yr Awen.' Cyfrannodd yn helaeth o draddodiad a chymdeithas lengar Eifionydd, a gwelwyd bod ynddo ddeunydd ysgolhaig. Swcrwyd ef felly i fanteisio ar gyfleusterau addysgol pellach; aeth i Ysgol y Brenin yng Nghaer, ac ymaelodi yn Rhydychen yn aelod o Goleg Iesu, Ebrill 1832. Graddiodd yn B.A. yn 1835 ag anrhydedd yn yr ail ddosbarth yn y clasuron ac yn M.A. yn 1838; urddwyd ef yn ddiacon gan esgob Caer yn 1835, ac yn offeiriad gan yr esgob Carey o Lanelwy yn Hydref 1836. Trwyddedwyd ef yn gurad i Dreffynnon, Ebrill 1836; aeth wedyn i esgobaeth Bangor, ac aildrwyddedwyd ef i Dreffynnon, Mehefin 1838. Yna daeth yn gurad Bangor a Phentir, Chwefror 1840, yn gurad Llanllechid, Ebrill 1845, ac yn gurad parhaus Amlwch (a Llanwenllwyfo), Ionawr 1847. Yn Hydref 1859 codwyd ef yn rheithor Llanrhuddlad (gyda Llanfflewin a Llanrhwydrus) a bu yno hyd ei farwolaeth, 3 Ionawr 1874. Claddwyd ef ym mynwent Llanrhuddlad; y mae coflech iddo yn yr eglwys yno, a hefyd bulpud marmor yn eglwys gadeiriol Bangor. Yn 1840 priododd ag Anne Jones o Ddinbych; bu iddynt bum merch a thri mab. O'r meibion, bu un, WILLIAM GLUNN WILLIAMS, yn brifathro ysgol Friars ym Mangor o 1879 hyd 1919; bu farw 23 Chwefror 1938 yn 87 oed; yn 1901 cyhoeddodd waith gan ei dad, Damhegion Esop ar Gân. Bu mab arall, WILLIAM MORRIS WILLIAMS, yn brifathro ysgol ramadeg y Bont-faen o 1875 i 1889.
Pan oedd ' Nicander ' yn Nhreffynnon, bu'n cynorthwyo yn y gwaith o ddiwygio Cymraeg y Llyfr Gweddi Gyffredin, ac o eisteddfod Aberffraw yn 1849 ymlaen, pan enillodd y gadair am awdl ar 'Y Greadigaeth,' bu'n flaenllaw yn y byd llenyddol, gan ennill a beirniadu droeon yn yr eisteddfod genedlaethol. Ysgrifennodd yn helaeth i'r Cylchgrawn Cymraeg, gan gyfieithu Chwedlau Esop yn Gymraeg; cyfansoddodd hefyd lawer o emynau. Ymhlith ei gyhoeddiadau ceir Y Flwyddyn Eglwysig, 1843; Dysga Fyw, 1847; a Dysga Farw, 1848; sef cyfieithiadau o weithiau'r Dr. Sutton; argraffiad o Llyfryr Homiliau, 1847; Y Psallwyr, neu Lyfr y Psalmau wedi ei gyfieithu a'i gyfansoddi o'r newydd ar fesur cerdd, 1850; argraffiad o waith ' Dafydd Ionawr,' 1851; a nifer o draethodau ar faterion eglwysig. Ceir hefyd yn Adgof uwch Anghof, 1883, ddetholiad diddorol o'i lythyrau at ei gyfaill Ebenezer Thomas ('Eben Fardd'). Yr oedd yn un o arloeswyr ' Mudiad Rhydychen ' yn esgobaeth Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.