Ganwyd 17 Medi 1775, mab William Jones, gwehydd (neu deiliwr) a bardd gwlad o Frynengan ym mhlwyf Dolbenmaen, Sir Gaernarfon. Dilynodd yr un grefft â'i dad eithr symudodd yn ifanc i Lerpwl, lle y treuliodd weddill ei oes, a lle y dywedir iddo fod yn ysgolfeistr am rai blynyddoedd. Yr oedd yn Fethodist Calfinaidd, ac yn flaenor am flynyddoedd yn hen gapel Pall Mall.
Amlygodd ddawn farddonol yn ieuanc iawn, meistrolodd reolau cynghanedd, ac yn Lerpwl cyrchid ato am addysg gan feirdd ieuainc ymhlith ei gydwladwyr yno. Bu'n llwyddiannus fel bardd eisteddfodol, e.e. enillodd ei gywydd, ' Gwaredigaeth Israel, a Dymchweliad yr Aiphtiaid yn y Môr Coch, ' yn eisteddfod Aberhonddu, 1822; yn 1826 enillodd gadair eisteddfod Gwent a Morgannwg yn Aberhonddu am ei awdl, ' Rhoddiad y Ddeddf ar Fynydd Sinai. ' Ei gystadleuaeth olaf, hyd y gwyddys, oedd ei awdl ar ' Cystuddiau, Amynedd ac Adferiad Job, ' yn eisteddfod Lerpwl yn 1840 (lle yr enillodd ' Eben Fardd '). Ymhlith ei waith cyhoeddedig ceir Mel Awen (1823), cyfrol o farddoniaeth gaeth a rhydd; cyfrol o emynau yn cynnwys rhai enwog fel ' Cysegrwn flaenffrwyth …, ' ' Cyn llunio'r byd … ' a ' Daw tyrfa rif y gwlith '; Catecism Ysgrythyrol; hanes Cymdeithasfa'r Bala yn 1820; cyfieithiad, Manteision ac Anfanteision Ystad Priodas. Cyfrannodd lawer i gylchgronau fel Seren Gomer a Goleuad Gwynedd.
Bu farw yn Lerpwl, 26 Ionawr 1845, a chladdwyd ef ym mynwent S. Paul; David James ('Dewi o Ddyfed') a weinyddodd yn yr angladd.
Ceir manylion llawnach o yrfa helbulus Pedr Fardd yn Lerpwl yn Hanes Methodistiaeth Liverpool (J. H. Morris) 119-24.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.