Ganwyd 7 Awst 1860 yn Llundain-fach, Llandysul, Sir Aberteifi, mab John William a Mary Davies. Addysgwyd ef yn ysgol genedlaethol Capel Dewi ac yn ysgol Eilir, Llandysul. Bu'n gweithio ar fferm yn yr ardal ac yna fel glowr yn y Maerdy, Rhondda. Wedi dioddef effeithiau nwy yn nhanchwa 1889 ymsefydlodd fel masnachwr esgidiau a chlocsiau yn Llanbedr-Pont-Steffan. Oherwydd ei ddiddordeb dwfn mewn llyfrau Cymraeg ac mewn achyddiaeth, yn enwedig achau teuluoedd Ceredigion a gorllewin Cymru, penodwyd ef yn 1908 ar staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a oedd newydd ei sefydlu, a bu yno hyd oni ymneilltuodd yn 1927. Gyda'r ystôr enfawr o wybodaeth achyddol a llyfryddol a gasglasai'r gŵr hunan-ddiwylliedig hwn bu'n abl, yn y blynyddoedd cynharaf, i roddi cymorth gwerthfawr i ymchwilwyr yn y meysydd hynny. Hefyd cynorthwyodd Syr John Williams, y prifathro J. H. Davies, a llyfryddwyr eraill, i sicrhau i'w llyfrgelloedd, sydd bellach ymhlith casgliadau sylfaenol y Llyfrgell Genedlaethol, lyfrau printiedig gwerthfawr; efe ei hun a brynodd rai ohonynt mewn arwerthiannau gwledig. Yn ddiweddarach paratôdd restri disgrifiadol o filoedd lawer o weithredoedd a dogfennau eraill yng nghasgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol.
Priododd John Davies, 1890, Margaret, merch John Thomas, Glantroiddyn, Caio, Sir Gaerfyrddin, a bu iddo fab a merch. Yr oedd yn aelod o'r Eglwys yng Nghymru. Bu farw yn Aberystwyth, 23 Mehefin 1939, a'i gladdu yng nghladdfa Aberystwyth.
Efe oedd awdur Rhestr o Lyfrau argraffedig yng Nghaerfyrddin gan John Ross rhwng y blynyddoedd 1763 a 1807 (Caerfyrddin, 1916). Mewn cydymgynghoriad â Mrs. Lucy E. Lloyd Theakston cyfansoddodd a golygodd Some Pedigrees of the Lloyds of Allt yr Odyn, Castell Hywel, Ffos y Bleiddiaid, Gilfach Wen, Llan Llyr and Waun Ifor (Oxford, 1912). Efe hefyd a drefnodd i'w gyhoeddi gynnwys Rhestr Eisteddfodau hyd y flwyddyn 1901 gyda nodiadau ar amryw ohonynt (Llandyssul, 1914), sef defnyddiau a gasglasai D. M. Richards, Aberdâr, dros nifer o flynyddoedd ond y methodd âu trefnu a'u cyhoeddi cyn ei farw yn 1913. Yn 1927 cyhoeddodd adargraffiad (50 copi, argraffedig yn Aberystwyth gan John Jones) o Myfyrdod ar Einioes ac Angeu… (Caerfyrddin, 1798), cyfieithiad David Davis, Castell Hywel, o Elegy Written in a Country Churchyard Thomas Gray.
Y mae nifer o'i lawysgrifau ynghadw yn y Llyfrgell Genedlaethol. Yn eu plith y mae mynegai i awduron Cymru (O.M.E.) (NLW MS 6042D ); traethawd (buddugol yn yr eisteddfod genedlaethol, Aberystwyth, 1916) ar 'Lenorion Sir Aberteifi; braslun o'u hanes a rhestr gyflawn o'u gweithiau cyhoeddedig rhwng 1600 a 1900' (NLW MS 8705D ); traethodau - 'Ymchwiliad Hynafiaethol a Thraddodiadol am Ellen Wyn o Ddyffrynllynod ynghyd a Theuly y Wyniaid Plwyf Llandyssul,' 1900, a 'Hen Feirdd Plwyf Llandyssul,' 1906 (NLW MS 8710E ); adysgrifau o gofrestri plwyfi Llanbedr-Pont-Steffan, Cellan, Llanddewi-brefi, a Llanddewi Abergwessin (NLW MSS 704-7 ); casgliad o ffugenwau nas cynhwysir yn yr atodiad i Cardiff Free Libraries: Catalogue of Printed Literature in the Welsh Department, 1898 (NLW MS 8714A ); a llawer o achau a nodiadau achyddol.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.