Ganwyd Harry Longueville Jones yn Piccadilly, Llundain, ar 16 Ebrill 1806, yr hynaf o dri phlentyn (ac unig fab) Edward Jones (1774-1815), llieinwerthwr a'i wraig Charlotte Elizabeth (ganwyd Stephens, 1784-ar ôl 1832). Roedd gan Jones gysylltiadau â Chymru drwy dad ei dad, Capten Thomas Jones o Wrecsam, a laddwyd mewn gornest yn 1799, a oedd wedi ychwanegu'r enw Longueville ar ôl etifeddu rhai o ystadau Longueville yn Sir Amwythig. Wedi ei addysgu yn ysgol Dr Nicholls, Ealing, derbyniwyd Jones yn seisar i Goleg Sant Ioan, Caergrawnt yn 1823, gan fudo i Goleg Magdalene yn 1827, lle graddiodd gydag anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn 1828 a'i ethol yn Gymrawd o'r coleg. Wrth gyhoeddi ei Illustrations of the Natural Scenery of the Snowdonian Mountains (1829), a gyflwynwyd i'r Dywysoges Mary, Duges Caerloyw, datgelodd ddiddordeb yng Nghymru a medr fel dyluniwr a gâi eu datblygu'n sylweddol dros y degawdau dilynol. Ordeiniwyd Jones yn ddiacon (1829) ac offeiriad (1831) yn Eglwys Loegr, gan wasanaethu am gyfnod byr fel curad Conington, Sir Gaergrawnt, ond ni cheisiodd ddyrchafiad eglwysig pellach. Yn lle hynny, ar ôl gorfod ymddiswyddo o'i gymrodoriaeth yn sgil ei briodas (14 Mai 1835) â Fanny (ganwyd Weston, 1814-ar ôl 2 Ebrill 1871) o Wellington, Sir Amwythig, symudodd Jones a'i wraig i Baris.
Ni wyddom pam y dewiswyd Paris gan y pâr priod. Ymddengys nad oes sail i honiadau bod gan Jones gysylltiadau teuluol â'r ddinas, a dichon bod y costau byw is nag yn Lloegr yn ddigon o esboniad. Cynhaliai Jones ei hun fel newyddiadurwr ar bapur Saesneg dyddiol Galignani's Messenger a chyfrannai i ddiweddaru Galignani's Paris Guide, gan weithio am gyfnod ochr yn ochr â'r nofelydd William Makepeace Thackeray (1811-1863). Cyfrannai hefyd i gyfnodolion ym Mhrydain, yn arbennig Blackwood's Edinburgh Magazine, a gynigiai lwyfan i'w ddaliadau Torïaidd cadarn, a dilynai ei ddiddordebau mewn damcaniaeth a diwygiad cymdeithasol drwy ffurfio cysylltiadau â Chymdeithas Ystadegol Manceinion. Yn 1836 darllenwyd papur ar ei ran i'r gymdeithas yn dadlau o blaid sefydlu prifysgol ym Manceinion, ac yn 1838 daeth yn Aelod Gohebol Tramor ohoni hi ac o Gymdeithas Ystadegol Llundain. Yn 1838-9 adroddwyd bod Jones yn cwblhau gwaith yn Ffrangeg ar brifysgolion ym Mhrydain Fawr. Os felly, dyma un o nifer o brosiectau na chawsant mo'u gwireddu, er i Jones gyhoeddi erthygl ar y pwnc a chyfrannu'r testun, gyda Thomas Wright (1810-1877), i Memorials of Cambridge John Le Keux (1841-2).
Datblygodd Jones ei ddiddordebau hynafiaethol ac archaeolegol ym Mharis hefyd. Yn Ionawr 1839 fe'i penodwyd yn un o wyth Aelod Gohebol Tramor dros Loegr i'r Comité historique des arts et monuments, un o'r sefydliadau a grewyd gan Frenhiniaeth Gorffennaf (1830-48) i gofnodi a diogelu treftadaeth Ffrainc. Daeth cydnabyddiaeth bellach o'i gymwysterau archaeolegol a hynafiaethol drwy ei ethol yn aelod o'r Société de l'histoire de France yn Chwefror 1840 ac yn Gymrawd o Gymdeithas Hynafiaethwyr Llundain ym Mehefin 1841. Yn ddiweddarach apeliodd Jones at esiampl mesurau treftadaeth Ffrainc yn ei fentrau i ddatblygu archaeoleg Cymru. Yn yr un modd cafwyd rhagflas o'r gwaith maes eang yr ymgymerodd ag ef yng Nghymru gan ei arolwg o bedwar deg naw o eglwysi yng nghyffiniau Paris yn 1839-40.
Dychwelodd Jones i Brydain ym Mawrth 1842 ac ymsefydlu yn Dover Street, Manceinion, lle arhosai tan o leiaf ddiwedd 1847. Sefydlodd goleg yn y dref, ond cafodd fwy o foddhad drwy ymweliadau â Sir Fôn i gofnodi ei heglwysi canoloesol. Erbyn 1848 roedd wedi symud o Fanceinion i Fiwmares, ac yn ddiweddarach ailgartrefodd ym mhentref cyfagos Llandegfan. Erbyn yr amser hwn ei brif ddiddordeb oedd hynafiaethau Cymru, gan ei fod wedi cymryd y rhan arweiniol, mewn cydweithrediad â'i gyd-Anglicanwr John Williams Ab Ithel, yn sefydlu'r cyfnodolyn Archaeologia Cambrensis (1846) ac, yn ei sgil, Cymdeithas Hynafiaethau Cymru (1847). Dyma ei gyflawniadau mwyaf arhosol. Ceisiai Jones osod yr astudiaeth o archaeoleg a hynafiaethau Cymru ar seiliau mwy systematig a beirniadol nag o'r blaen, a bu i'w wrthodiad o ddeongliadau Derwyddol ffansïol Ab Ithel arwain at ymddiswyddiad hwnnw o'r Gymdeithas yn 1853. Cyfrannodd Jones bron 100 o erthyglau i Archaeologia Cambrensis a pharhaodd yn olygydd arno hyd ei farw.
Ar 16 Rhagfyr 1848 penodwyd Jones yn Arolygydd Ei Mawrhydi ysgolion Eglwys Loegr yng Nghymru. Dyma weddnewid ei amgylchiadau ariannol, gan fod y cyflog blynyddol o £600 wedi rhoi iddo incwm rheolaidd am y tro cyntaf ers iddo roi'r gorau i'w Gymrodoriaeth yng Nghaergrawnt. Crwydryn oedd Jones yn ystod y blynyddoedd dilynol. Cymerai ei ddyletswyddau swyddogol ef nid yn unig i Swyddfa'r Cyfrin Gyngor yn Llundain ond hefyd i sefydliadau addysgol ar hyd a lled Cymru, gan gynnig cyfleoedd niferus iddo ymweld â henebion archaeolegol. At hynny, parhâi i symud ei gartref, gan breswylio yn The Polygon, Clifton yng nghanol y 1850au ac yn Y Pîl, Sir Forgannwg erbyn 1861. Ond cododd gwrthdaro rhyngddo a'i benaethiaid - o ganlyniad, yn rhannol o leiaf, i'w agwedd gydymdeimladol at y defnydd o'r Gymraeg mewn ysgolion - ac ymddiswyddodd yn 1864 ar ôl i'r gyntaf o gyfres o strociau ei adael yn glaf. Treuliodd ei flynyddoedd olaf yn Kensington, Llundain yn bennaf, ac aros yn ddeallusol weithgar, gan gyhoeddi casgliad o'i ysgrifau yn fuan cyn ei farwolaeth gartref yn 1 Claremont Terrace, Newland Street ar 16 Tachwedd 1870. Claddwyd Jones bum niwrnod yn ddiweddarach ym mynwent yr Holl Eneidiau, Kensal Green. Gadawodd ei weddw a'i ferched Fanny, Charlotte, Louisa a Mildred, nad oedd ond y ddwy gyntaf ohonynt wedi priodi (y naill yn 1856 a'r llall yn 1861).
Er nad oes unrhyw luniau neu ddisgrifiadau corfforol o Jones wedi goroesi, datgela ei gyhoeddiau a'i ohebiaeth ddyn aflonydd, deallus ac annibynnol ei farn a rannai ddiddordebau canolog ei oes: yn arbennig, ymroddiad i welliant addysgol a chymdeithasol, yn seiliedig ar ddadansoddiad ystadegol, wedi ei gyplysu â theimladrwydd Rhamantaidd a ymhyfrydai yn harddwch natur yn ogystal â henebion, yn enwedig o'r oesoedd canol. Roedd y teimladrwydd hwnnw'n agos gysylltiedig â'i wleidyddiaeth Dorïaidd, a ddelfrydai gymdeithas hierarchaidd, ymostyngol wedi ei rheoli gan y bendefigaeth. Yr oedd ei berthynas â Chymru yn fwy cymhleth, felly, nag y mae darluniau modern ohono fel Cymro gwlatgar yn ei awgrymu. Yn wir, mae'n ansicr i ba raddau yr ystyriai Jones ei hun yn Gymro. Er ei bod yn debygol i'w dras rannol Gymreig helpu esbonio ei ddiddordeb yn y Dywysogaeth, edrychai arni o safbwynt estron a dreuliasai ei flynyddoedd ffurfiannol yn Lloegr a Ffrainc. Gallai fod yn llym ei feirniadaeth ar y Cymry, ac nid oedd ganddo fawr o amynedd â diwylliant eisteddfodol neu Anghydffurfiaeth Gymreig, heb sôn am fudiadau o blaid diwygiad gwleidyddol. Ond bu iddo hefyd gondemnio 'Llyfrau Gleision' y comisiynwyr addysg yn 1847, ac ar y cyfan roedd ganddo gydymdeimlad â'r iaith Gymraeg, er na ddysgodd i'w siarad yn rhugl yn ôl pob tebyg. Deilliai ei gydymdeimlad, fodd bynnag, o'i argyhoeddiad fod yr iaith yn cynnal teimlad o falchder cenedlaethol yng Nghymru a gyfrannai'n hanfodol i gynnal rhyddid a nerth yr Ymerodraeth Brydeinig yn erbyn peryglon democratiaeth. Roedd yn gwbl gyson â'i agwedd wleidyddol fod gwaddol mwyaf arwyddocaol Jones yng Nghymru, Archaeologia Cambrensis a Chymdeithas Hynafiaethau Cymru, wedi eu dychmygu fel mentrau o dan arweiniad y bonedd a'r clerigwyr Anglicanaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 2016-09-14
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Ganwyd yn 1806 yn Llundain, yn fab i Edward Jones (o Wrecsam). Ceir hanes ei dras yn A Hundred Years of Welsh Archaeology (11-2), a hanes ei yrfa hyd 1846 yno ac (yn helaethach) yn y D.N.B.
Yn 1846, aeth i fyw i Landegfan, ac ar ddiwedd 1848 penodwyd ef yn arolygydd yr ysgolion eglwysig yng Nghymru - ymddeolodd o'r swydd hon yn 1864. Yr oedd y frwydr yn erbyn y bwriad (1844) o uno dwy esgobaeth Gogledd Cymru eisoes wedi arwain i gyfeillgarwch rhyngddo a John Williams ' ab Ithel ', a chan fod y ddeuddyn yn hynafiaethwyr selog, naturiol fu iddynt gychwyn (a chydolygu) y cylchgrawn Archaeologia Cambrensis (Ionawr 1846), a sefydlu'r Gymdeithas Hynafiaethol Gymreig ('Cambrian Archaeological Association') yn 1847. Longueville Jones a oedd yn gyfrifol am gostau'r cylchgrawn hyd 1850, ac ymddengys iddo golli cryn lawer o arian arno. Ond pan oedd ' ab Ithel ' bellach yn unig olygydd daeth y gwahaniaeth rhwng y ddau gyfaill yn amlwg; ni ddygymyddai 'derwyddiaeth' frwd ' ab Ithel ' â naws wyddonol Longueville Jones. Yn 1852, ymadawodd ' ab Ithel ' â'r olygyddiaeth; ac yn 1855 ailgydiodd Longueville Jones ynddi - bu'n olygydd hyd ei farw yn Llundain, o'r parlys, 16 Tachwedd 1870.
Heblaw'r rhes hir o ysgrifau (gyda darluniau ganddo ef ei hunan) a gyfrannodd i Archæologia Cambrensis, cyhoeddodd amryw lyfrau (rhestr yn y D.N.B.).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.