ELSTAN GLODRYDD, 'tad' y pumed o lwythau brenhinol Cymru

Enw: Elstan Glodrydd
Plentyn: Cadwgan ab Elstan Glodrydd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: 'tad' y pumed o lwythau brenhinol Cymru
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Er na wyddys odid ddim amdano, fe dâl ei enw'n bennawd i grynodeb (a dynnwyd o Lloyd, A History of Wales ) o hanes arglwyddi diweddarach 'Rhwng Gŵy a Hafren,' cantrefi Maelienydd ac Elfael - gweler yr ach ar t. 770 o A History of Wales gan Lloyd. Yr oedd gan Elstan (A History of Wales , 406) fab, CADWGAN, a chan hwnnw dri mab. Un ohonynt oedd IDNERTH, yntau â thri mab; o'r rheini cafodd MADOG (bu farw 1140) bump o feibion. Lladdwyd dau o'r rhain, HYWEL a CADWGAN, yn 1142, ac un arall, Maredudd, yn 1146. Rhannodd y ddau arall y tiroedd; teyrnasai CADWALLON (bu farw 1179) ar Faelienydd, ac EINION CLUD (bu farw 1177) ar Elfael. Anghytunent, ac yn 1160 cydiodd Cadwallon yn Einion a'i draddodi i Owain Gwynedd - traddododd Owain ef i'r brenin Harri II, ond llwyddodd Einion i ddianc o'r carchar. Yn 1163 safodd y ddau gyda'i gilydd dan faner Owain Gwynedd yng Nghorwen; yn ddiweddarach yr oeddynt ill dau yng ngosgordd yr Arglwydd Rhys, ac ill dau'n noddwyr i fynachlog Cwm Hir pan ailsefydlwyd honno yn 1176. O dri mab Cadwallon, cymerodd MAELGWN y groes yn 1188; bu farw yn 1197, a'i fab yntau, CADWALLON, yn 1234. Dau fab a fu i Einion; dywedir i'r hynaf, Einion (ab Einion Clud), a gyfenwid yn gyffredin ' Einion o'r Porth,' briodi merch i'r arglwydd Rhys. Cymerodd yntau'r groes yn 1188; bu farw yn 1191.

Ers tro mawr yr oedd teulu Mortimer wedi bod yn ymwthio i diroedd tylwyth Elstan, ac yn y 13eg a'r 14eg ganrif llwyddasant yn y diwedd i'w meddiannu'n llwyr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.