PARRY, ROBERT ('Robyn Ddu Eryri '; 1804 - 1892), bardd

Enw: Robert Parry
Ffugenw: Robyn Ddu Eryri
Dyddiad geni: 1804
Dyddiad marw: 1892
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Edward Morgan Humphreys

Ganwyd yng Nghaernarfon, 7 Chwefror 1804, ei dad yn deiliwr, yn feddyg esgyrn, ac yn dipyn o brydydd. Bu yn ysgol Evan Richardson am ysbaid, a chafodd Peter Bailey Williams yn noddwr cynnar, ac Arthur Jones, Bangor, yn noddwr diweddarach. Eithr ni afaelodd o ddifrif mewn unrhyw alwedigaeth; dywed John Davies ('Gwyneddon') amdano, ' gan nad oedd wedi dysgu crefft ac nad oedd ganddo foddion gweledig at ei gynhaliaeth, aeth o amgylch y wlad i glera.' Bu'n cadw ysgol mewn gwahanol fannau, yn darlithio ac yn pregethu, yn siarad dros y Mormoniaid, yn glerc mewn swyddfa cyfreithiwr, ac, o 1850 hyd tua 1852, yn olygydd Y Wawr, a gyhoeddid yng Nghaerdydd. Bu yn America yn darlithio, a daeth i gryn amlygrwydd yng Nghymru fel areithiwr ar ddirwest. Amheuai rhai ei gywirdeb, ond barn ' Gwyneddon,' a oedd yn ei adnabod yn dda, oedd iddo gael cryn lawer o gam, ac mai meddalwch oedd ei fai mwyaf. Ysgrifennodd lawer o brydyddiaeth, a chyhoeddodd Hugh Humphreys, Caernarfon, gyfrol o'i waith, Teithiau a Barddoniaeth Robyn Ddu, yn 1857. Ei hunangofiant yn y gyfrol honno, er mor wasgarog ydyw, yw'r peth gorau yn y llyfr. Bu'n cynorthwyo Arthur Jones gyda'i gyfieithiad o The Life of Christ (Fletcher): dywed ' Gwyneddon ' mai ei eiddo ef yw y rhan fwyaf o'r cyfieithiad. Bu farw yn 88 mlwydd oed, yn Llwydlo, 4 Tachwedd 1892, a chladdwyd ef ym mynwent Ludford. Y mae llawysgrifau ganddo yn llyfrgell Coleg y Gogledd - Bangor MSS. 636, 752-5, 978, 1286, 1549, 3839, 4870, 5277.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.