Ganwyd yn 1759 yn y Bryngwyn Bach, Llanfihangel-genau'r-glyn, yn fab i saer maen o'r enw Rhisiart Morys Huw - a gelwid yntau fynychaf yn ' Evan Richards,' nid yn unig ar lafar gwlad ond yn llythyrau Thomas Charles ac yng nghofnodion y Methodistiaid Calfinaidd yn ei ddydd. Dywedodd Lewis Edwards rywdro fod Richardson yn 'ewythr' iddo. Bwriedid ef i'r offeiriadaeth a bu yn Ystrad Meurig dan Edward Richard, ond daeth dan ddylanwad Daniel Rowland; cefnodd ar yr Eglwys (ac ar ei deulu o'r herwydd), a chychwynnodd ysgol tua Llanddewi-brefi. Ar daith i'r gogledd fel 'cyfaill' pregethwr, dechreuodd bregethu (1781), ac ar anogaeth Robert Jones Rhoslan agorodd ysgol (1782) ym Mrynengan; symudodd hi wedyn i Bwllheli ac oddi yno i Langybi Eifionydd. Cododd gwrthwynebiad iddo yno, a symudodd yntau (1787) i dref Caernarfon. Bu ei ysgol yn bwysig iawn yn hanes addysg pregethwyr Methodistaidd ei dydd, a gwelir mynych gyfeiriad ati yn eu cofiannau - y ddeuddyn enwocaf a fu ynddi yng Nghaernarfon oedd John Elias a (Syr) Hugh Owen; rhoes Richardson hi i fyny tua 1817 pan ddechreuodd ei iechyd dorri, a chymerwyd ati gan William Lloyd. Gydag Evan Richardson, i bob pwrpas ymarferol, y cychwyn Methodistiaeth Caernarfon. David Jones (Llangan), a bregethodd gyntaf yno o blith y Methodistiaid Calfinaidd, yn 1786, ac yn 1787 (cyn mynd i fyw i'r dref) pregethodd Richardson gyda John Roberts (1752 - 1834), wrth dalcen capel Annibynnol Pen-dref, gyda chefnogaeth y gweinidog George Lewis. Yn fuan wedyn cymerth lofft yn Nhan-yr-allt ar ffordd Bethel i gynnal moddion; ac yn 1793 codwyd capel cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn ' Mount Pleasant,' rhagflaenydd capel Moreia (1826). Ordeiniwyd Richardson yng ngwasanaeth ordeinio cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd, yn y Bala, 1811. Yn 1817, aeth ei iechyd yn ddrwg; cafodd ergyd o'r parlys ac ni phregethodd wedyn gymaint â chynt. Bu farw 29 Mawrth 1824, yn 65 oed, a chladdwyd yn Llanbeblig. Bu'n briod ddwywaith.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.