Cywiriadau

JONES, ROBERT AMBROSE (‘Emrys ap Iwan’; 1848 - 1906), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, llenor a beirniad llenyddol

Enw: Robert Ambrose Jones
Ffugenw: Emrys ap Iwan
Dyddiad geni: 1848
Dyddiad marw: 1906
Rhiant: Maria Jones
Rhiant: John Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, llenor a beirniad llenyddol
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: David Myrddin Lloyd

Ganwyd 24 Mawrth 1851 ger Abergele (ei dad yn arddwr yn Bryn Aber), mab hynaf John a Maria Jones. Priodasai hendaid Emrys â Ffrances a drigai yng nghastell y Gwrych, a bu gwybod hyn yn help i ennyn ei ddiddordeb yn Ffrainc ac Ewrop. Ar ôl ymadael â'r ysgol elfennol yn Abergele, aeth ‘Emrys’ yn 14 oed yn negesydd siop ddillad yn Lerpwl, ond dychwelodd ymhen blwyddyn i arddio ym Modelwyddan. Aeth yn 18 oed i athrofa'r Bala, ac ar ôl gorffen ei gwrs yno bu'n cadw ysgol yn y Rhuallt, ac am dri mis yn gofalu am achos Saesneg yng Nghaergwrle. Yn 1874 aeth am flwyddyn a hanner fel athro Saesneg ac i ddysgu Ffrangeg ac Almaeneg mewn ysgol yn Lausanne. Daeth adref yn 1876, ond dychwelodd am rai misoedd i Heidelberg, Bonn, a Giessen, a pharhaodd i ymweld â'r Cyfandir yn gyson. Tua 1877 dechreuodd sgrifennu i'r Gwyddoniadur a'r Faner. Aeth i ddadlau'n agored ag arweinwyr Corff y Methodistiaid Calfinaidd yn erbyn codi eglwysi Saesneg mewn ardaloedd Cymraeg, ac oherwydd hyn gwrthodwyd ei ordeinio yn Llanidloes (1881), ond ar ôl dadl gyndyn o'r ddau du fe'i hordeiniwyd yn yr Wyddgrug (1883). Bu'n bugeilio eglwysi yn Rhuthyn a Threfnant, ac yn 1900 symudodd i'r Rhewl, lle y bu farw 6 Ionawr 1906, ac yno y mae ei fedd. Ni bu erioed yn briod.

Yn niwedd cofiant ‘Emrys ap Iwan’ gan T. Gwynn Jones (1912) ceir rhestr o dros 80 o'i lythyrau a'i ysgrifau i'r Wasg a ymddangosodd rhwng 1876 a'i farw. Fe'u gwelir gan mwyaf yn y Faner a'r Geninen. Ceir hefyd gryn dipyn o'i waith yn atodiad y Gwyddoniadur. Blwyddyn ei farw cyhoeddodd Ezra Roberts gyfrol o'i Homiliau, ac ail gyfrol yn 1909. Ceir hefyd gyfrol arall o bregethau Emrys ap Iwan (1928). Cyhoeddwyd Breuddwyd Pabydd wrth ei ewyllys yn ddwy gyfrol yng nghyfres ‘Llyfrau'r Ford Gron,’ a chan y Clwb Llyfrau Cymreig cafwyd tair cyfrol o'i erthyglau (1937-40). Cyhoeddwyd llyfr gramadeg Cymraeg o'i waith yn 1881, a chan I. Foulkes ei argraffiad rhad o Y Bardd Cwsc, 1898. Ceir llawer o'i waith anghyhoeddedig yn y Llyfrgell Genedlaethol, gan gynnwys ei gyfieithiad o Job Renan.

Fel beirniad llenyddol ei waith mawr oedd amlinellu prif rediad ein traddodiad rhyddiaith clasurol, a'i ymgais i buro a choethi iaith ac arddull pros ei gyfnod yn unol â'r safonau a welai yn y ‘Clasuron Cymraeg’ — amcan tebyg i eiddo Syr John Morris-Jones ym maes barddoniaeth.

Yr oedd ‘Emrys ap Iwan’ yn drwm dan ddylanwad Pascal a Paul-Louis Courier, a chanddynt dysgodd werth pamffled graenus a bachog fel erfyn i herio safonau ei oes, ac i orfodi sylw. Ceir eu techneg yn ei ysgrifau. Ei brif amcan oedd adfer hunanbarch a hyder y genedl Gymreig. Cariai'r frwydr i fyd ei enwad ac i wleidyddiaeth Gymreig a chyffredinol y dydd. Dyfais pamffledydd oedd ei ‘Lythyr Etholiad,’ lle y cymerodd arno ymgynnig fel ymgeisydd Cymreig ym Môn, gan roi amlinelliad o bolisi arbennig i Gymru yn cynnwys ymreolaeth a gweithio'n annibynnol ar y pleidiau Seisnig.

Y mae i'w bregethau le sicr ymhlith camp-weithiau ein llên. Yr oedd yn ffyddlon i'r traddodiad Efengylaidd Cymreig, ond ceisiai ei ehangu trwy ei gyfathrach â meddwl Catholig a Phrotestannaidd Ewrop yn ei aml agweddau, a'i ddiogelu rhag eithafion teimlad ac unigoliaeth trwy ei bwyslais ar fuchedd, a dysg, a dyletswyddau cymdeithasol.

Oblegid ei her i feddwl ei oes yng Nghymru, a'i arddull frathog, fe'i drwgdybid gan lawer, a chan hynny, ar ôl ei farw, ac yn enwedig ar ôl ymddangosiad y cofiant iddo gan T. Gwynn Jones, y tyfodd ei ddylanwad yn fawr trwy Gymru. Yn ei fro ei hun, serch hynny, enillodd ei blwyf trwy ddichlynder ei gymeriad dihunan, a'i lafur dygn a hynod wreiddiol ymhlith plant ei eglwysi.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

JONES, ROBERT AMBROSE (‘Emrys ap Iwan')

Ganwyd ef 24 Mawrth 1848 (a'i chwaer Priscilla 10 Rhagfyr 1849) yn un o dai Ffordd-las, Abergele. Mam ‘Emrys ap Iwan’ oedd Maria Jones, hithau'n ferch i Margaret Coates a oedd yn ferch i George Coates, mwynwr yng ngwaith copr Drws-y-coed (1769-72) cyn symud i fyw i Landdulas. Rhith yw'r Ffrances o hen-nain y buwyd yn tybied ei bod ganddo.

      Ffynonellau

    • W. Wynne-Woodhouse, Hel Achau, 1987.

    Dyddiad cyhoeddi: 1997

    Cywiriadau