PRICE, EDWARD (1797 - 1887), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: Edward Price
Dyddiad geni: 1797
Dyddiad marw: 1887
Plentyn: John Price
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 1 Ebrill 1797 yng Ngharreg-y-big, Llangwm, sir Ddinbych, a magwyd yn of (bu'n pedoli llawer o wartheg i borthmyn yn Llangwm); etifeddodd hen ddiwylliant y fro, a bu'n gwrando ar ' Twm o'r Nant ' yn actio anterliwtiau - flynyddoedd lawer wedyn medrai adrodd gwaith ' Twm o'r Nant ' yn rhugl.

Ond bu'n gwrando hefyd ar Thomas Charles, a thueddwyd ei feddwl at bregethu; dechreuodd bregethu yn 1826. Yn 1828 symudodd i Groesoswallt - gydag ef yno y bu 'Ap Vychan' (Robert Thomas) yn gweithio fel gof. Aeth i Birmingham yn 1837, eto'n of, ac ef i bob pwrpas ymarferol fu cychwynnydd Methodistiaeth Gymraeg Birmingham, ef a gododd ei chapel cyntaf (1841) - gweithiodd fel labrwr arno yn ei oriau rhydd, a theithiodd lawer i gasglu arian i dalu amdano; ef hefyd a'i bugeiliodd, ond nid cyn 1848 yr ordeiniwyd ef. Ymadawodd yn 1854 am Lanwyddelan (Maldwyn), i fugeilio eglwys yr Adfa.

Yn 1876 symudodd i Groesoswallt; oddi yno wedyn at ei fab (isod) ym Mangor; ac yn y diwedd i'r Hengaer-uchaf, Llawr-y-betws, yn hen blwy Llanfor, lle y bu farw 30 Ionawr 1887.

Y mae tair ysgrif helaeth a diddorol iawn arno, gan Daniel Rowlands, yn Y Traethodydd am 1887. Bu'n briod ddwywaith; mab iddo oedd John Price, prifathro Coleg Normal Bangor.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.