Ganwyd yng Nghroesoswallt, 9 Mawrth 1830, mab y Parch. Edward Price Addysgwyd ef yn gyntaf yn ysgolion Birmingham, ac yna yn sir Drefaldwyn hyd onid aeth i Goleg y Bala yn 1848 dan Lewis Edwards. Wedi aros yno am bedair blynedd aeth i goleg hyfforddi Borough Road, Llundain, am y flwyddyn 1852-3, a chafodd yrfa eithriadol o lwyddiannus yno. Ar ôl tymor o ddwy flynedd fel ysgolfeistr yn Llanfyllin, symudodd yn 1855 i agor Ysgol Frutanaidd y Bala. Dug ei fedr fel ysgolfeistr ef i sylw Syr Hugh Owen, a gwahoddwyd ef i gydweithio gyda'r Parch. John Phillips yn y coleg hyfforddi newydd ym Mangor; dechreuodd ar ei waith yno ar agoriad y coleg yn 1858. Yn 1863 penodwyd ef yn ddirprwy-brifathro pan wnaethpwyd Phillips yn bennaeth y coleg, a gwasnaethodd yn yr un swydd eto o dan y Parch. Daniel Rowlands, o 1867 hyd 1891, pryd y penodwyd ef ei hun yn brifathro. Yn y cyfnod cyntaf syrthiodd cyfran helaeth iawn o waith y coleg ar ysgwyddau Price, ac yn y cyfnod hwnnw y gwnaeth ei wasanaeth pennaf. Bryd hynny enillodd y coleg enw uchel iddo'i hun droeon ymysg colegau hyfforddi'r deyrnas. Nid oedd y dirprwy-brifathro wedi cael addysg o radd uchel iawn, ond yr oedd yn ŵr o allu diamheuol, yn goeth ei Gymraeg a'i Saesneg, ac yn dra medrus fel athro. Dysgai amryfal bynciau, ond nid yn y rhai oedd yn hen gynefin iddo, megis pwnc Saesneg a Hanes, y cafodd ei brif lwyddiant, ond mewn pwnc a oedd yn newydd iddo, sef llysieueg. Gwir mai cyfyng oedd ei wybodaeth o'r testun, ond gan faint ei frwdfrydedd newydd-anedig llwyddodd i gyfrannu yn helaeth o'i ddiddordeb i'w ddisgyblion a chreu ysbryd ymchwil mewn amryw ohonynt. Yr oedd John Price yn arweinydd mewn cylchoedd crefyddol ym Mangor, ac yn gadeirydd y bwrdd ysgol am 30 mlynedd. Yr oedd hefyd yn aelod blaenllaw o gyngor y ddinas, ac yn fawr ei ddylanwad yng nghynghorau ar lwyfan y blaid Ryddfrydol, a hynny ar adeg gynhyrfus a chynhennus iawn rhwng y Rhyddfrydwyr a'r Torïaid. Safodd yn eon dros ei olygiadau mewn llawer dadl frwd, ac yn wyneb pob ymosodiad. Ond daeth terfyn ar helbulon ei fywyd cyhoeddus ar dderbyn ohono gyfrifoldeb pellach yn y coleg, pan benodwyd ef yn brifathro, a hynny yn bennaf ar sail ei wasanaeth maith a'i weithgarwch dros addysg a chrefydd yn y cylch. Bu farw 6 Tachwedd 1906.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.