Mab Edward Jones a Catherine, ganwyd 24 Gorffennaf 1824 yn y Foty, cartref ei daid, fferm ar y bryniau rhwng Llandderfel a Bethel. Symudodd ei rieni i Tan-y-ffordd, tŷ bychan yn ymyl Llandderfel. Aeth oddi yno i chwilio am waith, ac wedi llawer o grwydro, cafodd waith fel trafaeliwr yn swydd Stafford, rhannau o ganolbarth Lloegr, a Gogledd Cymru i lawr hyd at Aberystwyth gan gwmni J. F. a H. Roberts, Manceinion [gweler Roberts o Mynydd-y-gof]. Bu'n bregethwr cynorthwyol gyda'r Bedyddwyr, ac ysgrifennodd i'w cyfnodolion, Y Tyst Apostolaidd, ac Y Greal.
Ym Manceinion ffurfiwyd cymdeithas lenyddol o bedwar, 'Creuddynfab,' 'Ceiriog,' 'Idris Fychan' a Robert Jones; mynnai Robert Jones iddynt gymryd cyfenwau Cymraeg, a gosododd 'Derfel' ar ôl ei enw bedydd ei hun. Enillodd ar bryddestau mewn eisteddfodau; danfonodd i'r Amserau ddarnau o gerdd ar Reports of the Commissioners of Enquiry into the State of Education in Wales…; ataliwyd ei chyhoeddi, ac argraffodd y gerdd gyfan dan yr enw Brad y Llyfrau Gleision , 1854. Cyhoeddodd yn 1864 Traethodau ac Areithiau, lle dadleuodd dros brifysgol i Gymru, dros bapur dyddiol Cymraeg, llyfrgell genedlaethol, llyfrgelloedd pentref, amgueddfa genedlaethol, ysgol gelfyddyd, ac arsyllfa. Dengys y llyfr hwn ei fod yn un o arloeswyr y mudiad cenedlaethol yn y ganrif ddiwethaf.
Gadawodd grefydd; troes yn sosialydd a rhesymolwr tan ddylanwad llyfrau Robert Owen. Yr oedd R. J. Derfel yn un o'r rhai a gychwynnodd yn 1890 y 'Manchester and District Fabian Society.' Ysgrifennodd rhwng 1889 a 1904 lawer o lyfrynnau a cherddi yn Saesneg ar sosialaeth, ac ynddynt yr oedd yn fwy o Oweniad nag o Ffabiad. Cyhoeddodd yn Y Cymro a Llais Llafur rhwng 1892 a 1903 gyfresi o erthyglau a llythyrau ar sosialaeth - yr erthyglau cyntaf ar sosialaeth yn Gymraeg; yn y rhain ceisiodd gysoni ei sosialaeth â Christnogaeth a chenedlaetholdeb. Daeth dan ddylanwad y mudiad seciwlaraidd, yn enwedig weithiau Holyoake a Bradlaugh, ac ysgrifennodd nifer o erthyglau i The Freethinker a chylchgronau seciwlaraidd ac agnostig.
Wedi rhoi'r gorau i bregethu tua 1865 prynodd â'r arian a gynilasai siop i werthu llyfrau Cymraeg ym Manceinion, a gwasg ynghlwm wrthi, a'i wasg ef ei hun a gyhoeddodd rai o'i bamffledi Saesneg ar sosialaeth; hefyd cyhoeddodd 'Derfel's School Series,' cerddi Saesneg, gyda nodiadau, ar 'Llywelyn ab Gruffydd' ac eraill, a hefyd ddetholiadau bychain o weithiau Scott, Coleridge, ac eraill, ond rhoddwyd pen ar y cyhoeddi hwn i ysgolion pan ddewisodd y Bwrdd Addysg wasg iddi hi ei hun. Bu farw 17 Rhagfyr 1905, a llosgwyd ei gorff yn y crematoriwm ym Manceinion.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.