ROBERTS, teulu, Mynydd-y-gof, Bodedern, Môn

DAVID ROBERTS (1788? - 1869), meddyg

Mab oedd i John a Catherine Roberts, Aberalaw, Llanfachraeth; ym mhlwyf Llanddeusant yr oedd gwreiddiau'r teulu. Prentisiwyd ef i feddyg yng Nghaergybi, ac wedi bwrw tymor gyda meddyg yn Llundain, dychwelodd i Fôn ac ymsefydlodd fel meddyg ac amaethwr ym Mynydd-y-gof. Priododd yn 1815 â Sarah Foulkes (1788 - 1879), ferch Thomas Foulkes o Fachynlleth a nith i Simon Lloyd o'r Bala. Cyfrifid mai ef, ymhell cyn diwedd ei oes, oedd pen blaenor y Methodistiaid Calfinaidd ym Môn; dyn difrif, cynnil ond nid cybyddlyd, tipyn o deyrn efallai - ar ryw olwg, ymgorfforiad o hen Fethodistiaeth yr ynys. Bu farw 12 Ionawr 1869 'yn ei 81 mlwydd' meddai ei fab Robert, a chladdwyd yn Llanfachraeth. Cafodd deulu mawr (gweler J. E. Griffith, Pedigrees, 383 - ond nid yw'r plant yn yr iawn drefn yno) o 10 o blant; bu mab a merch farw'n blant, ond tyfodd wyth mab i oedran (Y Drysorfa, 1870, 428-9, 466-9, a'r gyfrol Mynydd-y-gof). Geilw tri o'r meibion am sylw:

JOHN FOULKES ROBERTS (1817 - 1902), masnachwr

Yr ail fab. Aeth i Fanceinion yn 1838; yn nes ymlaen (1847) cychwynnodd ef a'i frawd Hugh y ffyrm lwyddiannus iawn 'J.F. and H. Roberts.' Fel ei dad, yr oedd yn ŵr hynod gydwybodol; cymerth Samuel Smiles yn hyfforddwr, ac ymdrechodd i'w ddiwyllio ei hunan - dysgodd Roeg. Nid oedd yn Gymreigiwr, a throes at yr Annibynwyr Saesneg, ond ni bu'n ôl o gynorthwyo Cymry Manceinon, a dug fawr sêl dros addysg yng Nghymru - o'r cychwyn cyntaf hyd ei farwolaeth (30 mlynedd), bu'n un o ddau is-lywydd Coleg Aberystwyth. Cymerth ran flaenllaw ym mywyd cyhoeddus ei ddinas; a bu'n arglwydd faer yn 1896-7. Bu farw 5 Tachwedd 1902 (Mynydd-y-gof; ysgrifau coffa yn y Wasg). Gyda'r Annibynwyr Saesneg y magwyd ei fab

FREDERICK CHARLES ROBERTS (1862 - 1894), cenhadwr meddygol

Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Manceinion, yng Ngholeg Aberystwyth, ac yn Edinburgh, lle y graddiodd mewn meddygiaeth. Yn 1887 aeth i China, yn gyntaf i gynorthwyo James Gilmour ym Mongolia ond wedyn yn Tien-tsin, lle y bu farw Mehefin 1894 - aeth ei chwaer MARY ROBERTS allan ato yn 1888. Bu wedyn yn gofalu am yr ysbyty a alwyd ar enw ei brawd; bu hi farw yn 1933 (E. Lewis Evans, Cymru a'r Gymdeithas Genhadol, 154-5).

ROBERT ROBERTS (1828 - 1916), masnachwr

Y chweched mab, yntau'n fasnachwr ym Manceinion; cychwynnodd fusnes ar ei gyfrifoldeb ei hunan yno yn 1855, ond tua 1870 rhoes y gorau iddo ac o hynny hyd 1885 gweithredai fel ' agent.' Nid yw ef mor adnabyddus o lawer â'i ddau frawd arall a gofnodir yma, ond ar ryw olwg y mae'n fwy diddorol na hwy, fel awdur y gyfrol ddi-enw ac anghyhoedd, Mynydd-y-gof, or the History of a Welsh Calvinistic Methodist Family , 1905, sydd nid yn unig yn hunangofiant ac yn hanes ei deulu ond hefyd yn ddogfen werthfawr ar Fethodistiaeth Môn a'i harweinwyr yn hanner cyntaf y 19eg ganrif ac ar y bywyd Cymreig ym Manceinion Bu farw 28 Ionawr 1916 (gwybodaeth gan ei ŵyres; Mrs. Bulman).

Syr WILLIAM ROBERTS (1830 - 1899), meddyg

Yr wythfed o'r brodyr. Ganwyd 18 Mawrth 1830. Aeth i ysgol Mill Hill a Choleg y y Brifysgol yn Llundain; graddiodd yn 1851 (M.D. 1854), ac astudiodd ym Mharis a Berlin; etholwyd ef yn F.R.S. yn 1877. Ymsefydlodd ym Manceinion yn 1854; o 1855 hyd 1883 bu'n brif feddyg yr ysbyty yno, ac o 1863 hyd 1889 yn athro meddygiaeth yn y coleg sydd bellach yn Brifysgol Manceinion. Yn 1889 symudodd i Lundain. Cafodd bob anrhydedd sy'n agored i feddyg. Anhwylderau'r arennau oedd ei brif faes, ond gwnaeth gyfraniadau pwysig i wybodaeth ar bynciau meddygol eraill, yn enwedig mewn ffisioleg. Ers 20 mlynedd cyn ei farwolaeth yr oedd wedi prynu stad y Bryn yn Llan-ym-Mawddwy, lle y byddai'n hafota; yno bu farw 16 Ebrill 1899, a chladdwyd ym mynwent y llan. (D.N.B., atodiad cyntaf; Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1932-3, gyda rhestr o'i bapurau; Mynydd-y-gof.)

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.