WILLIAMS (TEULUOEDD), Gwernyfed, ym mhlwyf y Clas-ar-Wy ('Glasbury'), Brycheiniog

Bu dau deulu gwahanol o Williamsiaid yno:

(1) Cysylltir y cyfenw gyntaf â Gwernyfed ym mherson Syr DAVID WILLIAMS (1536? - 1613), barnwr, mab ieuengaf Gwilym ap John Fychan (cefnder i Syr John Price o Aberhonddu), Blaen Newydd (=Nedd?), Ystradfellte. Galwyd David Williams i'r Bar (o'r Middle Temple) yn 1576, a chafodd yrfa lwyddiannus iawn a ddisgrifir yn y D.N.B. Bu'n atwrnai-cyffredinol yn y sesiwn fawr mewn pum sir yn Neheudir Cymru (1581-5), yn ' recorder ' Aberhonddu (1587-1604) a Chaerfyrddin, ac yn aelod seneddol dros Aberhonddu, 1584-93 a 1597-1604; yr oedd yn sersiant yn y gyfraith (1593); urddwyd ef yn farchog gan Iago I a'i godi'n farnwr Mainc y Brenin. Bu farw 22 Ionawr 1612/13, a chladdwyd yn eglwys y Priordy yn Aberhonddu (gweler ei arysgrif goffa yn Theophilus Jones, 3ydd argr., ii, 68). Yr oedd wedi prynu (1600) stad Gwernyfed gan John Gunter, yr olaf o'r hen deulu yno; ac yr oedd ganddo stadau eraill (a degymau) ym Mrycheiniog a siroedd eraill ar y goror.

Cymysglyd iawn yw'r adroddiad o ddisgynyddion Syr David Williams a roddir inni gan Theophilus Jones (op. cit., iii, 82-3), gan Burke (Extinct Baronetcies, 568), a chan Jane Williams yn ei hysgrif ar y Clas-ar-Wy (Archæologia Cambrensis, 1870, 308-9) - e.e. cymysgwyd dwy genhedlaeth, fel y dangosodd R. W. Banks (Archæologia Cambrensis, 1879, 153 - neu ar iii 91-2 o'r 3ydd arg. o Theophilus Jones). Dilynwyd Syr David gan ei fab Syr HENRY WILLIAMS, a fu farw 1636. Tebyg mai hwn (ac nid ei fab, fel y dywed y rhestr o aelodau seneddol ar ddiwedd History of the County of Brecknock) oedd yr aelod seneddol dros dref Aberhonddu, 1601-4; urddwyd ef yn farchog yn 1603 ac yr oedd yn aelod o Gyngor y goror yn 1617; gellid meddwl drachefn mai efe oedd yr aelod seneddol dros Frycheiniog o 1620 hyd 1628. Ar y llaw arall, gan y gelwir aelod seneddol Brycheiniog yn 1628-9 yn ' Henry Williams, Ysw. ', odid nad ei fab oedd hwnnw - Syr HENRY WILLIAMS (a fu farw 1652), a urddwyd yn farwnig yn 1644, ac a groesawodd Siarl I i Wernyfed ar ei ymweliad â Chymru ar ôl brwydr Naseby (1645). Gan na eilw neb o ddisgynyddion gwrywol hwn am sylw, nid rhaid yma ymboeni i ddatrys yr achau; myn Burke i'r farwnigiaeth barhau hyd 1798, ond dyfynna Banks dystiolaeth gyfoes ei bod hi wedi darfod cyn 1727, ac y mae hynny'n llawer haws ei gredu, oblegid bu dau frawd o'r teulu farw heb feibion, a chyda'r aeres, ELIZABETH WILLIAMS, aeth Gwernyfed drwy briodas i linach newydd o Williamsiaid.

(2) Rhaid troi yn awr at Williamsiaid ' Tallyn ' ym mhlwyf Llangasty Tal-y-llyn (gweler W. R. Williams, Old Wales , iii, 195-205, a Theophilus Jones, iii, 84). Sefydlwyd y llinach hon gan ryw THOMAS WILLIAMS, a briododd â merch o hen deulu Poweliaid 'Tallyn.' Mab iddo ef oedd WILLIAM WILLIAMS, a mab ieuengaf i hwnnw oedd Syr THOMAS WILLIAMS (1604 - 1712), 'o Eltham,' meddyg, a ddaeth yn feddyg i Siarl II ac wedyn i Iago II. Dull Siarl o dalu bil ei feddyg oedd pentyrru segurswyddau proffidiol arno - 'Assay-Master of the Mint,' 'Examiner in Bankruptcy,' 'Receiver-General of Land Revenues,' etc.; gwnaeth Williams felly arian dirfawr. Urddwyd ef yn farwnig yn 1674. Bu farw yn 1712, yn 108 oed - claddwyd 20 Medi 1712 yn y Clas-ar-ŵy. Yr oedd ei ddau fab, Syr JOHN WILLIAMS (yr ail farwnig; bu farw 1723) a Syr EDWARD WILLIAMS (bu farw 1721) eisoes yn farchogion. Priododd Syr Edward (cyn 1712, onid e ni chladdesid ei dad yn y Clas-ar-Wy) ag Elizabeth Williams (uchod), a chafodd Wernyfed. Bu ef yn aelod seneddol dros Frycheiniog, 1697-8 a 1705-21; claddwyd yntau yn y Clas-ar-Wy, 28 Gorffennaf 1721. Treiglodd barwnigiaeth ei frawd John i un o feibion Syr Edward; ond yma eto daeth nifer o farwolaethau annhymig, a darfu'r farwnigiaeth gyda'r 5ed barwnig, Syr EDWARD WILLIAMS, a fu farw yn Clifton yn 1804 heb fab a'i goroesodd. Haedda'r Syr Edward hwn ryw gymaint o sylw, oblegid yr oedd yn un o brif hyrwyddwyr y 'Brecknock Agricultural Society' (1755 - y gyntaf yng Nghymru) - gweler Theophilus Jones, ii, 34-7; W. R. Williams, Old Wales, ii, passim; M. H. Jones yn Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1908-9. Dug hyn ef i gyswllt agos â Howel Harris, a thrwy ei ddylanwad ef y cafodd Harris gapteiniaeth ym milisia Brycheiniog; y mae yng nghasgliad Trefeca amryw lythyrau a basiodd rhwng y ddeuddyn. Gan i'w unig fab (Edward) farw o'i flaen (1800), aeth Gwernyfed i'w ferch, MARY WILLIAMS. Priododd hi â Thomas Wood, o Middlesex; bu eu mab, THOMAS WOOD (1777 - 1860) yn aelod seneddol dros Frycheiniog o 1806 hyd 1847 yn ddifwlch, gan ddymchwel arweinyddiaeth Morganiaid Tredegar ym mywyd gwleidyddol y sir.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.