Ganwyd 26 Ebrill 1873 yn Nhreherbert; yng Ngheredigion yr oedd gwreiddiau ei deulu. Bu yn yr ysgol (ac yn ddisgybl-athro) yno dan M. O. Jones, gŵr y soniai amdano â'r parch dyfnaf ar hyd ei oes. Athro, yn wir, a fu ef bob amser; fel athro y pregethai, a threfnusrwydd athro da a welir yn ei ysgrifeniadau. Dechreuodd bregethu yn 1892, ac yn 1897 aeth i Drefeca; wedyn (1897-1900) bu yng Ngholeg Aberystwyth, a graddiodd yn 1900 gydag anrhydedd mewn Cymraeg. Ei fwriad ar y pryd oedd dal ymlaen i astudio Cymraeg; ymddiddorai hefyd mewn hynafiaethau. Galwyd ef i fugeilio yn Abercynon (ordeiniwyd ef yn 1902), ond yn 1903 symudodd i Heol-y-dŵr, Caerfyrddin, a bu yno hyd 1906; priododd ferch i John Wyndham Lewis, un o'i ragflaenwyr yn yr ofalaeth; bu ganddo hefyd ran (1905) yng nghychwyniad Cymdeithas Hynafiaethol sir Gaerfyrddin - efe oedd ei hysgrifennydd cyntaf, a golygodd ei Thrafodion am 21 mlynedd. Ond gadawodd y dref yn 1906 i fod yn un o athrawon yr ysgol ragbaratoi yn Nhrefeca, a bu yno hyd 1909. Yn ôl ei dystiolaeth ef ei hunan, y cyfnod byr hwn a newidiodd gwrs ei fywyd. Rhoddwyd arno ofal y gist y cedwid papurau Trefeca ynddi, a dechreuodd yntau fynd i'w pennau. Hyd yn oed pan symudodd i ofalaeth Jerusalem, Ton (Ystradyfodwg), yn 1909, ni phallodd y diddordeb hwn. Yn 1914, penodwyd ef yn ysgrifennydd Pwyllgor Hanes y Methodistiaid Calfinaidd; canlyniad hyn fu cychwyn y Gymdeithas Hanes (1916) a'i Chylchgrawn; bu'n cydolygu hwnnw (gyda J. H. Davies a Richard Bennett) am bedair blynedd, ac o 1920 hyd ei farwolaeth ef oedd yr unig olygydd. Yn 1920 gadawodd y Ton am ofalaeth Penllwyn, i fod yn nes at y llawysgrifau, a oedd bellach yn Aberystwyth; ac yn 1922 traddododd ei ' Ddarlith Davies '; ei theitl oedd The Trevecka Letters : yn 1932 (wedi ei farw) cyhoeddwyd cyfrol dan y teitl hwnnw, yn cynnwys math o 'brolegomena' i astudiaeth y llythyrau, rhestr fanwl ohonynt, a phenodau'n dangos y goleuni a deflid ganddynt ar hanes gwahanol agweddau ar Fethodistiaeth. Yr oedd wedi cynnig cynnwys y llyfr i arholwyr y Brifysgol am y radd o Ph.D., a roddwyd iddo yn 1929. Dychwelodd yn 1929 i'w hen ofalaeth yn Heol-y-dŵr, Caerfyrddin, ond bu farw yno 5 Mai 1930.
Ni wnaeth neb un fwy cymwynas i haneswyr Methodistiaeth Cymru nag a wnaeth M. H. Jones. Yr oedd hyd yn oed ei gyfyngiadau'n werthfawr - buasai gŵr o 'athrylith' fwy ac o ddychymyg bywiocach wedi ffoi o ŵydd y pentyrrau o bapurau a gedwid gynt (yn ddiofal i'w ryfeddu) yn Nhrefeca. Ond bodlonodd ef i gopïo, i restru, i gasglu enwau a dyddiadau a mân ffeithiau; ac yr oedd ei wastadrwydd, ei drefnusrwydd, ei fanylder, ei amynedd diderfyn, yn ei gymhwyso bron yn wyrthiol at y gwaith. Y mae ei restr o'r llythyrau, ei Itinerary fanwl o symudiadau Howel Harris, ei gyfraniadau i lyfryddiaeth Methodistiaeth, wedi arbed amser dirfawr, a llafur caled, i'w olynwyr. Wrth edrych ar restr hir ei gyfraniadau i'r Cylchgrawn Hanes, ac ar yr un pryd i Drafodion Cymdeithas Hanes sir Gaerfyrddin, y mae'n anodd sylweddoli iddo fod ar hyd yr amser yn weinidog gweithgar ac yn hyrwyddwr dyfal i welliannau yn nhrefn ac addysg yr ysgolion Sul. Ar ddiwedd y gyfrol The Trevecka Letters, 307-10, ceir rhestr o'i ysgrifau i gyfnodolion misol a chwarterol, ond ni cheisiwyd rhestru ei gyfraniadau mynych i'r Wasg wythnosol.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Dylid cofio, ynglŷn ag ef ŵr arall a ymddiddorodd o'i flaen ef yn llawysgrifau Trefeca, ac a luniodd gatalog ohonynt yn 1894, sef EVAN EDWARD MORGAN (1855 - 1927); ganwyd yn Parc-y-brain, Brwynllys ('Bronllys', ger Talgarth), yn fab i ysgolfeistr. Aeth i wasanaeth yr Ordnance Survey yn ifanc, a bu am flynyddoedd yn y 'Land Valuation Office' yn Aberhonddu. Yr oedd yn un o aelodau gwreiddiol (1905) Cymdeithas Hynafiaethau sir Gaerfyrddin, ac yn aelod o Gymdeithas Hynafiaethol Cymru. Gŵr swil a thawedog, ond sgrifennai lawer, yn ddiddorol, ar hynafiaethau Brycheiniog yn y papurau lleol. Bu farw 21 Ebrill 1927 yn 72 oed, a chladdwyd yn y Brwynllys.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.