DAVIES, JOHN GLYN (1870 - 1953), ysgolhaig, ysgrifennwr caneuon a bardd

Enw: John Glyn Davies
Dyddiad geni: 1870
Dyddiad marw: 1953
Priod: Hettie Davies (née Williams)
Rhiant: Gwen Davies (née Jones)
Rhiant: John Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig, ysgrifennwr caneuon a bardd
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Cerddoriaeth; Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Robert Geraint Gruffydd

Ganwyd 22 Hydref 1870 yn 55 Peel St, Sefton Park, Lerpwl, yn fab i John a Gwen Davies. Masnachwr te oedd ei dad a'i fam yn ferch i John Jones, Tal-y-sarn; brodyr iddo oedd George Maitland Lloyd Davies, Stanley Davies, a'r Capten Frank Davies. Addysgwyd ef yn y Liverpool Institute. Bu'n gweithio gyda chwmnïau llongau hwylio Rathbone Brothers (1887-92) a'r Cambrian (1892-95), gyda Henry Tate & Sons (1895-96) ac yna gyda'r Mines Corporation of New Zealand (1896-98). Wedi dychwelyd adref (drwy'r Taleithiau Unedig) fe'i perswadiwyd gan Thomas Edward Ellis ac eraill i fynd i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth i gasglu llyfrgell Gymraeg a fyddai'n sylfaen ymhellach ymlaen i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Bu yn Aberystwyth o 1899 i 1907 a gwneud gwaith da yno, ond yr oedd yn dra anfodlon ar amodau ei swydd. Yn 1907 fe'i penodwyd ar staff llyfrgell Prifysgol Lerpwl ac wedi hynny'n gynorthwywr i'r Athro Kuno Meyer yn adran Gelteg y Brifysgol. Pan ymddeolodd Meyer yn 1920 penodwyd J. Glyn Davies yn bennaeth yr adran ac arhosodd yn y swydd hon nes iddo ymddeol yn 1936; ym Mostyn ac yn Ninbych yr oedd yn byw, fodd bynnag. Wedi ymddeol bu'n byw yng Nghaergrawnt, Llandegfan, Llannarth (Ceredigion) a Llanfairfechan; ac yn Llanfairfechan y bu farw 11 Tachwedd 1953. Priododd, 18 Gorffennaf 1908, â Hettie Williams o'r Ceinewydd, Cer., a bu iddynt fab a thair merch.

Cyfrannodd erthyglau ar lenyddiaeth Gymraeg i nifer o gylchgronau a chyhoeddodd Welsh metrics (1911). Er gwaethaf ei allu diamheuol ac addewid bendant ei waith cynnar, mympwyol ac anwastad fu cyfraniad J. Glyn Davies i ysgolheictod Cymraeg. Y mae, fodd bynnag, nodau athrylith ar ei ganeuon i blant, Cerddi Huw Puw (1923), Cerddi Robin Goch (1935) a Cherddi Portinllaen (1936), a sylfaenwyd, lawer ohonynt, ar ganeuon morwyr a glywsai pan oedd yn llanc. Ac y mae yn y gyfrol o farddoniaeth a gyhoeddwyd wedi ei farw, Cerddi Edern a cherddi eraill (1955), amryw delynegion sydd yn sicr o fyw. Gellir ychwanegu fod ei atgofion am y gymdeithas Gymreig a adnabu ym more oes, a'i sylwadaeth arni, bob amser yn ddiddorol a threiddgar odiaeth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/