DAVIES, GEORGE MAITLAND LLOYD (1880 - 1949), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac apostol heddwch

Enw: George Maitland Lloyd Davies
Dyddiad geni: 1880
Dyddiad marw: 1949
Priod: Leslie Eleanor Davies (née Royde-Smith)
Plentyn: Jane Hedd Davies
Rhiant: Gwen Davies (née Jones)
Rhiant: John Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac apostol heddwch
Maes gweithgaredd: Crefydd; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Ellis Meredith

Ganwyd 30 Ebrill 1880 yn Peel Road, Sefton Park, Lerpwl, yn fab i John a Gwen Davies. Bedyddiwyd ef yn G. M. Temple Davies : ef a wnaeth y cyfnewid yn ei enw. Masnachwr te oedd ei dad a'i wreiddiau yn Sir Aberteifi, a merch i John Jones, Tal-y-sarn (1796 - 1857) oedd ei fam. Addysgwyd ef yn Lerpwl ac aeth yn gynnar i wasanaeth y Bank of Liverpool. Penodwyd ef yn rheolwr cangen yng Ngwrecsam yn 1908, a daeth yn swyddog yn yr R.W.F. (y tiriogaethwyr). Yn 1913 gadawodd y banc i fod yn ysgrifennydd y Welsh Town Planning and Housing Trust a thua'r adeg yma rhoddodd heibio'i swydd filwrol: ymhen y flwyddyn ymdaflodd i waith amser llawn (a di-dâl) gyda Chymdeithas y Cymod. Priododd yn Finchley, 5 Chwefror 1916, â Leslie Eleanor Royde-Smith, chwaer Naomi Royde-Smith y nofelydd, a ganwyd iddynt un ferch, Jane Hedd. Oherwydd ei safiad yn erbyn rhyfel carcharwyd ef lawer gwaith yn ystod 1917-19. Yn 1923 etholwyd ef yn aelod seneddol dros Brifysgol Cymru fel heddychwr Cristionogol, ac fel cyfringennad gwnaeth waith pwysig dros heddwch yn yr ymgyflafareddu a fu rhwng Lloyd George a De Valera er enghraifft. Collodd ei sedd yn yr etholiad dilynol ac yn 1926 ordeiniwyd ef yn weinidog yn Eglwys y M.C. Bu'n gofalu am eglwysi Tywyn (S) a Maethlon 1926-1930. Clywodd alwad cyni deheudir Cymru a threuliodd flynyddoedd i weithio ymhlith dioddefwyr y dirwasgiad ym Mynwy a Morgannwg gan symud yn 1932 i Faes-yr-Haf, yn y Rhondda, sefydliad a agorwyd gan y Crynwyr. Aeth i fyw i Ddolwyddelan yn 1946 ac er mai bregus oedd ei iechyd daliai i bregethu ac i annerch. Dioddefodd o iselder am y rhan fwyaf o’i fywyd, a bu farw trwy hunanladdiad ar 16 Rhagfyr 1949 tra’n glaf gwirfoddol yn Ysbyty’r Meddwl Gogledd Cymru yn Ninbych. Fe’i claddwyd yn Nolwyddelan.

Yr oedd yn un o'r cymeriadau mwyaf a gwreiddiolaf a fagodd ein cenedl; yn ŵr hardd, cyfareddol ei bersonoliaeth, a chylch ei gyfeillion agos yn cynnwys uchelwyr a thlodion o lawer gwlad. Fe'i cysegrodd ei hun i'r ddelfryd y credai mor angerddol ynddi - cael cymod rhwng gwlad a gwlad, rhwng dyn a dyn. Ysgrifennodd lawer i gylchgronau a phapurau Cymraeg a Saesneg, a chyhoeddodd hanes ei genhadaeth Pererindod Heddwch, a hanes ei deulu, Atgofion Tal-y-sarn. Yn 1950 cyhoeddwyd Pilgrimage of Peace, detholiad o'i ysgrifau.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.